Bryn Eithin

Cost a hyd y cytundeb

2024-25

Cyfnod Gosod ar gyfer israddedigion aÌýôl-raddedigion

Hyd Cytundeb: Tua 42 Wythnos (Israddedigion) / 51 Wythnos (Ôl-raddedigion)

22 Medi 2024 – 12 Gorffennaf 2025 (Israddedigion) / 13 Medi 2025 (Ôl-raddedigion)

Noder bod disgwyl i Fyfyrwyr Rhyngwladol (at ddibenion ffioedd) gyrraedd Bangor ddydd Mercher y 18 Medi ar gyfer cyfnod Gogwydd i Fyfyrwyr Rhyngwladol. Felly, bydd Cytundebau Preswyl i Fyfyrwyr Rhyngwladol yn rhedeg o 18 Medi gyda chynnydd bach cyfatebol mewn ffioedd. Bydd cyfanswm eich ffioedd neuadd yn dangos ar eich Cytundeb Preswyl.

Rhent

£3,641.58 (Israddedigion) - tua £87 yr wythnos

£4,474.30 (Ôl-raddedigion) - tua £87 yr wythnos

2023-24

CyfnodÌýGosodÌýar gyfer israddedigion a ôl-raddedigionÌý

Hyd Cytundeb: Tua 40 Wythnos (Israddedigion) / 51 Wythnos (Ôl-raddedigion)

17 Medi 2023 – 22 Mehefin 2024 (Israddedigion) / 07 Medi 2024 (Ôl-raddedigion)

Noder bod disgwyl i Fyfyrwyr Rhyngwladol (at ddibenion ffioedd) gyrraedd Bangor ddydd Mercher y 13 Medi ar gyfer cyfnod Gogwydd i Fyfyrwyr Rhyngwladol. Felly, bydd Cytundebau Preswyl i Fyfyrwyr Rhyngwladol yn rhedeg o 13 Medi gyda chynnydd bach cyfatebol mewn ffioedd. Bydd cyfanswm eich ffioedd neuadd yn dangos ar eich Cytundeb Preswyl.

Rhent

£3,467.58 (Israddedigion) - tua £87 yr wythnos

£4,474.30 (Ôl-raddedigion) - tua £87 yr wythnos

Taith o gwmpas Bryn Eithin

Trawsgrifiad o Bryn Eithin

Dyma faes parcio Bryn Eithin, ym Mhentref y Santes Fair. Mae ardal barbeciw a mainc bicnic ar y lawnt.

Dyma’r cyntedd ac mae dau ddrws i fynd i mewn i bob fflat. Mae grisiau sy’n mynd i fyny i’r tri llawr arall, sylwch nad oes lifft i’w gael. Mae yna hysbysfwrdd lle cewch weld gwybodaeth bwysig a manylion am eich mentoriaid neuadd. ÌýMae wyth ystafell wely ym mhob fflat ynghyd â dwy ystafell ymolchi a chegin.

Dyma’r gegin fwyta; mae yno fwrdd a meinciau i wyth o bobl a dwy soffa. Mae yna ddwy oergell-rewgell, popty a dau hob. Mae yno hefyd ficrodon, tostiwr a thegell. Mae dwy sinc ac mae digon o le storio yng nghypyrddau’r gegin ar gyfer yr wyth preswylydd. Mae sugnwr llwch, bwrdd smwddio, mop a bwced, a brwsh a phadell lwch i chi eu defnyddio. Mae yno hysbysfwrdd lle ceir gwybodaeth bwysig am iechyd a diogelwch. Trwy’r ffenestr fawr cewch olygfa o'r maes parcio, ac o’r lloriau uchaf ceir golygfeydd dros Fangor.Ìý

Yn yr ystafell wely hon mae gwely sengl, cwpwrdd dillad, droriau a desg a chadair gyda silffoedd uwchlaw. Mae yno hefyd fasn ymolchi gyda drych a hysbysfwrdd lle ceir gwybodaeth bwysig a gwybodaeth gyffredinol.

Yn yr ystafell wely hon mae gwely sengl, cwpwrdd dillad, droriau a desg a chadair gyda silffoedd uwchlaw. Ar y ddesg mae lamp desg. Yno hefyd ceir basn ymolchi gyda drych a hysbysfwrdd lle ceir gwybodaeth bwysig a gwybodaeth gyffredinol. Mae dwy ffenest yn ystafell wely hon sy’n rhoi golygfa i ddau gyfeiriad gwahanol ac ychydig mwy o arwynebedd llawr.

Mae dwy ystafell ymolchi ym mhob fflat. Mae ynddyn nhw fasn ymolchi a drych, toiled a chawod. Mae bachau ar y wal i hongian eich tywel ac ati.

Cyfeiriad

Bryn Eithin
Pentref y Santes Fair
Lôn Pobty
BANGOR
Gwynedd, LL57 1DZ

Mae'r ystafelloeddÌýyn y neuadd hon ar gael ar gyfer myfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig.

Mae lleoliad dyrchafedig y neuadd yn golygu bod golygfeydd gwych o'r ddinas.

Gweler yÌýMap Lleoliad.

Nodwch

Mae'r wybodaeth yma yn darparu golwg cyffredinol ar gyfleusterau'r neuadd ond gall fod amrywiadau mewn rhai mannau.

Mae gan y Brifysgol yr hawl i newid statws unrhyw neuadd breswyl neu i benderfynu peidio â defnyddio neuadd ar unrhyw bryd.