快活影院

Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn astudio

Cymorth, Iechyd a Lles

Byddwch yn cael tiwtor personol sy'n aelod o staff academaidd eich ysgol academaidd. Disgwylir i chi weld eich tiwtor o leiaf deirgwaith y flwyddyn i drafod materion academaidd sy'n ymwneud 芒'ch cynnydd. Gallwch drafod unrhyw faterion o gwbl. Fodd bynnag, po fwyaf y byddwch yn cadw mewn cysylltiad 芒'ch tiwtor, y mwyaf y byddant yn gallu eich cynghori a'ch cynorthwyo.

Byddwch yn cwrdd 芒'ch tiwtor personol yn ystod yr Wythnos Groeso - darganfyddwch pryd yma.

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch o nawr hyd at gwblhau eich astudiaethau yma, gall staff ddarparu cyngor proffesiynol, diduedd a chyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o feysydd cyffredinol yn ogystal ag ymholiadau penodol ar faterion mwy unigol, materion ariannol, cwnsela, iechyd myfyrwyr, materion anabledd, llety yn y sector preifat, gyrfaoedd, cyflogaeth ran-amser, a gwybodaeth am d卯m caplaniaeth y Brifysgol. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.bangor.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr.

Mae'r T卯m Cefnogaeth Dysgu ac Addysgu yn cynnig apwyntiad unigol gyda鈥檔 cynghorwyr astudio neu fyfyrwyr sydd wedi'u hyfforddi fel mentoriaid ysgrifennu, gwasanaeth 听mathemategol ac ystadegol ymgynghorol, gweithdai sgiliau astudio, a chanllawiau astudio ar-lein.听
Am ragor o wybodaeth, ewch i听/studyskills/index.php.cy

Mae'r T卯m Llais Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr yn bodoli i sicrhau bod barn a buddiannau holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn cael eu cynrychioli a'u clywed. Cyflawnir hyn mewn sawl ffordd - o'r System Cynrychiolwyr Cwrs i gefnogaeth a chynrychiolaeth unigol. 听I gael rhagor o wybodaeth ewch i

Mae gan y Brifysgol d卯m cymorth lles o uwch wardeniaid a mentoriaid preswyl yn y neuaddau preswyl. Gall myfyrwyr ofyn am gyngor a chymorth gan unrhyw aelod o'r t卯m ynghylch unrhyw bryder a allai fod ganddynt.

Cysylltwch 芒鈥檙 t卯m drwy鈥檙 Swyddfa Neuaddau yn ystod oriau swyddfa neu鈥檙 tu allan i oriau swyddfa dylai myfyrwyr gysylltu drwy d卯m diogelwch y Brifysgol ar 01248 382795 neu estyniad 2795.

Am fwy o wybodaeth ewch i bangor.ac.uk/accommodation/halls/mentors

Mae cysylltiad rhwng T卯m y Gaplaniaeth 芒'r Gwasanaethau Myfyrwyr, ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i gynnig gofal bugeiliol a chymorth aml ffydd i fyfyrwyr a staff y Brifysgol.

Mae'r t卯m, sy'n perthyn i wahanol draddodiadau ffydd, yn cwrdd yn rheolaidd i sicrhau dull cydlynol o ymdrin 芒 materion ffydd mewn modd sy'n parchu'r gwahanol gredoau a thraddodiadau yr ydym yn eu harddel.

Am ragor o wybodaeth, ewch i bangor.ac.uk/studentservices/faith/index.php.cy

Gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich helpu i ddod o hyd i waith tra byddwch yma ac ar 么l i chi raddio. Maent yn darparu arweiniad a gwybodaeth; gweithdai rheoli gyrfa a datblygu sgiliau; sgyrsiau cyflogwyr a seminarau gwybodaeth; interniaethau a chyfleoedd profiad gwaith; canolfan cyflogwyr; gweithgareddau a chymorth gyda sgiliau mentergarwch.

I wybod mwy ewch i听Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd | 快活影院

Myfyrwyr yn cymdeithasu tu allan i Pontio

Gwybodaeth am Ofal Iechyd

Yma fe welwch wybodaeth bwysig fel sut i gofrestru gyda meddyg teulu, cael gofal meddygol brys, gwasanaethau deintyddol, a gwybodaeth iechyd cyffredinol.