Myfyrwyr yn ymlacio a chymdeithasu gyda'i gilydd yn Barlows, St Mary's

Cyrraedd Prifysgol Bangor ar 么l yr Wythnos Groeso

Gall myfyrwyr gofrestru yn Llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau ar y diwrnodau ac amseroedd isod:

  • Dydd Llun - Dydd Gwener (30 Medi - 4 Hydref);
  • Dydd Llun - Dydd Gwener (7 - 11 Hydref);
  • Dydd Llun - Dydd Gwener (14 - 18 Hydref);
  • Y cyfan rhwng 10am a 4pm bob dydd.

Rhaid i fyfyrwyr Coleg Rhyngwladol Prifysgol Bangor fynd i'r coleg cyn mynd i wirio eu dogfennau adnabod.

Bydd cardiau myfyrwyr ar gael wrth gofrestru i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru ar-lein.

Os ydych wedi ymrestru ar 么l cyrraedd, bydd eich cerdyn myfyriwr ar gael yr wythnos ganlynol.

Gellir casglu cardiau BRP/fisa gan y t卯m mewnfudo yn y mannau cofrestru unwaith y bydd cofrestru ar-lein a鈥檙 gwiriadau adnabod wedi eu cwblhau. Gwnewch yn si诺r bod gennych lythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref yn cadarnhau eich fisa.

Os ydych yn casglu eich BRP o Swyddfa'r Post rhaid i chi fynd yno cyn mynd i Lyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau i Gofrestru a Gwirio eich Dogfennau Adnabod.

Os nad oes gennych lety wedi'i archebu ar gyfer astudio ym Mhrifysgol Bangor, efallai y bydd lleoedd ar gael o hyd mewn Neuaddau Preswyl ar y campws. Ewch i'r Swyddfa Neuaddau ar safle Ffriddoedd neu ewch i /llety am fwy o wybodaeth. E-bost Cyswllt: neuaddau@bangor.ac.uk

I'r rhai sy'n dymuno byw oddi ar y campws, mewn llety preifat, gall y swyddfa Llety Myfyrwyr yn Neuadd Rathbone ar Ffordd y Coleg helpu. Edrychwch ar a chyfeiriad e-bost yr adran Llety Myfyrwyr yw taimyfyrwyr@bangor.ac.uk

Cysylltwch 芒'ch Tiwtor Personol yn eich ysgol ar 么l cyrraedd i dderbyn gwybodaeth bwysig ac i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Mae gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ar gael yma: /cy/cymorth-iechyd-a-lles

Mae gwybodaeth fanylach am lesiant a chefnogi myfyrwyr ar gael yma: /studentservices/index.php.cy

I fyfyrwyr rhyngwladol: Mae'r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn Neuadd Rathbone ar Ffordd y Coleg ac mae ar agor rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. E-bost: internationalsupport@bangor.ac.uk