Rheoli D诺r
Mae d诺r ffres yn adnodd prin yn fyd-eang - mae llai nag 1% o'r holl dd诺r ar y Ddaear yn dd诺r croyw ar gael. Yn ogystal, mae trin a phwmpio d诺r a d诺r gwastraff yn broses ynni-ddwys. Trwy leihau faint o dd诺r a ddefnyddiwn gallwn arbed ynni a lleihau allyriadau carbon yn ogystal 芒 chadw cyflenwadau d诺r.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23, defnyddiodd Prifysgol Bangor fwy na 129,867 metr ciwbig o dd诺r. Mae'r Brifysgol yn gosod targedau iddi'i hun i leihau'r defnydd o dd诺r fel rhan o'i System Rheoli Amgylcheddol. Rhwng 2005 a 2023, gostyngwyd cyfanswm y defnydd o dd诺r 35.6% fesul arwynebedd llawr m2.
* Gan gynnwys data CALl wedi'i gywiro ar gyfer 2018/19 a 2019/20
Mae'n bwysig bod pawb yn cyfrannu at helpu i leihau'r defnydd o dd诺r a gwarchod yr adnodd gwerthfawr hwn.
- Peidiwch 芒 gadael tapiau'n rhedeg yn ddiangen ac adroddwch ddiferion neu ollyngiadau i campusservices@bangor.ac.uk
- Dim ond berwi cymaint o dd诺r ag sydd ei angen arnoch chi wrth wneud eich te neu goffi, bydd hyn yn helpu i arbed ynni hefyd
D诺r Yfed
Bydd allfeydd arlwyo Prifysgol Bangor yn ail-lenwi'ch potel dd诺r y gellir ei hailddefnyddio am ddim, ac mae nifer o ddosbarthwyr d诺r wedi'u lleoli o amgylch y campws.