¿ì»îÓ°Ôº

Fy ngwlad:
Professor Bruce Vanstone, Head of Bangor Business School

Neges gan Bennaeth yr Ysgol, Yr Athro Bruce Vanstone Amdanom Ni

Mae Ysgol Busnes Bangor yn ysgol flaenllaw sy'n canolbwyntio ar addysgu ac ymchwil. Rydym yn cynnig rhaglenni gradd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau academaidd o lefel israddedig ac ôl-raddedig hyd at ddoethuriaeth.

Cewch eich addysgu gan staff academaidd sy'n arbenigwyr yn eu maes ac y mae eu hymchwil yn cyfrannu at ddatblygu polisi, hyrwyddo eu disgyblaethau, a hyd yn oed arwain at gwell dealltwriaeth o fusnes. Mae ein staff academaidd o'r radd flaenaf yn defnyddio eu hymchwil i lywio eu haddysgu, gan helpu i sicrhau eich bod yn barod iawn i lwyddo ym myd esblygol busnes byd-eang.

Rwy'n eich gwahodd i ymuno â'r gymuned gyffrous a bywiog sydd yma yn Ysgol Busnes Bangor, ac rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda chi i liwio eich gyrfa ar gyfer y dyfodol.

3ydd

allan o 85 ar gyfer y mesur Cyffredinol

Arolwg Profiad Ôl-raddedigion Hyfforddedig (PTES) 2023

Y Gorau

o holl brifysgolion ar gyfer ymchwil ym maes Bancio

RePEc, Medi 2023

5ed

ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid

2024 Guardian University Guide

Croeso i Ysgol Busnes Bangor

Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.

Gall fod yn anodd i bobl ddeall sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yn Ysgol Busnes Bangor, rydym yn credu gallwch ysgogi newid cadarnhaol ar draws y byd gyda’r addysg a’r sgiliau cywir.

Rydym yn hyderus o hyn, oherwydd mae ein staff ymchwil a'n graddedigion yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd.

Cymryd heriau busnes y byd go iawn i’w dwylo eu hunain.

P’un a yw hynny’n defnyddio dadansoddeg data i roi hwb i effeithlonrwydd y stryd fawr yn lleol, datblygu polisïau cynaliadwy cadarn ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r berthynas rhwng brandiau a sbwriel, er enghraifft, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n well i’w hiechyd a’r amgylchedd.

Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.

Ysgol Busnes Bangor yw lle mae traddodiad yn cwrdd ag arloesi.

Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel ein terfynellau Bloomberg dim ond taith fer o’r Ddarllenfa Shankland.

Nid damwain yw twf a datblygiad yr Ysgol Busnes.

Rydyn ni'n un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.

Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.

Rydym yn gweithio amrywiaeth o fusnesau ac elusennau, yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd.

Gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd darparu addysg ragorol trwy teithiau maes a dysgu am arbenigedd amrywiol diwydiannau.

Darparu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd.

Mae Ysgol Busnes Bangor yn fwy na lle i astudio,Ìýmae'n le i arweinwyr y dyfodol cael eu ffurfio,Ìýlle mae arloesedd yn ffynnu,Ìýa lle ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau byd-eang.

Ni yw'r ysgol sy'n golygu busnes,Ìýa hoffem chi ymuno â ni i gyd-lunio’r dyfodol.

Canolfannau Ymchwil

Mae Ysgol Busnes Bangor yn gartref i ddwy Ganolfan Ymchwil. Dysgwch fwy am ein Canolfannau Ymchwil a'u hamrywiaeth o weithgareddau a chyflawniadau.

Themâu Ymchwil

Mae Ysgol Busnes Bangor yn gartref i ddwy Ganolfan Ymchwil. Dysgwch fwy am ein Canolfannau Ymchwil a'u hamrywiaeth o weithgareddau a chyflawniadau.

Myfyriwr yn eistedd o flaen gliniadur ar fwrdd gwyn gyda pherson arall yn y cefndir

Ein Partneriaeth

Yma yn Ysgol Busnes Bangor rydym yn gweithio gyda phartneriaeth leol a phartneriaethau byd-eang. Ein hamcan yw ehangu'r profiad dysgu mae myfyrwyr yn ei chael yma yn yr ysgol a sicrhau bod busnesau yn cael mynediad tua at ymchwil o safon ac arbenigedd ein hacademyddion. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a sectorau trydydd parti.

Two students looking at databases in the new trading floor

Ein Cronfeydd Data

Yma ynÌýYsgol Busnes Bangor, mae gennym fynediad i rai o'r cronfeydd data gorau gan gynnwys Bloomberg. Mae caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r cronfeydd data hyn fel rhan o'u cwrs nid yn unig yn gwella eu profiad dysgu ond hefyd yn eu paratoi'n well ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Myfyrwyr yn gweithio mewn labordy Cyfrifiadureg

Ein Cyfleusterau ac Adnoddau

Mae Ysgol Busnes Bangor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau ac adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi a hyrwyddo profiad dysgu ymysg myfyrwyr. Ìý

DILYNWCH NI

Y Tweets diweddaraf gan

Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG

Cysylltwch

Ysgol Busnes Bangor, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG