¿ì»îÓ°Ôº

Fy ngwlad:

Cyfleusterau ac Adnoddau

Canolfannau maes pwnc

Ystafelloedd dosbarth enghreifftiol

Mae gan nider o'r meysydd pwnc yn yr Ysgol ystafell ddosbarth enghreifftiol sy'n gweithredu fel canolfan ar gyfer y pwnc hwnnw. Mae'r ystafelloedd hyn, sydd wedi'u cynllunio i fod yn enghreifftiau da o ystafelloedd addysgu, ar lefel yr ysgol gynradd, yr ysgol uwchradd, a'r brifysgol, yn cynnwys pob math o adnoddau sy'n berthnasol i'r pwnc, offer cyfrifiadurol a Byrddau Gwyn Rhyngweithiol. Mae’r rhan fwyaf o’r dysgu mewn cyrsiau Addysg yn digwydd yn yr ystafelloedd hyn, ar ffurf darlithoedd, gweithdai, a seminarau – neu, fel sy’n arferol, cymysgedd o’r rhain.

Y Ganolfan Addysg Gorfforol

Mae Safle’r Normal yn cynnwys y neuadd chwaraeon a’r gampfa a ddefnyddir ar gyfer Addysg Gorfforol yn y cyrsiau BA (Anrh) mewn Addysg Gynradd a TAR. Yn naturiol, mae pob myfyriwr hefyd yn gallu gwneud defnydd o gyfleusterau chwaraeon canolog y Brifysgol ar Safle Ffriddoedd.

Dysgu awyr agored

Mae gan safle’r Normal sawl man awyr agored a choetir bach, sydd ynghyd â phwll a mynediad parod i lan y Fenai, yn cynnig mannau delfrydol ar gyfer gweithgareddau dysgu awyr agored. Mae byw yn y gwyllt, helfa sborion, chwilota mewn pyllau ac adeiladu gwesty trychfilod i gyd yn nodweddion o ddysgu addysgu plant yn yr awyr agored ac ynghyd â chwrs cyfeiriannu parhaol, mae mannau gwyrdd safle'r Normal yn aros i gael eu harchwilio!

Adnoddau ar gyfer y Myfyrwyr Presennol

Gwasanaethau TG

I’ch helpu gyda’ch astudiaethau rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau dysgu a chefnogaeth gan staff profiadol.
Mae’r Gwasanaethau TG yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau Cyfrifiaduro, Cyfryngau a Reprograffeg gan gynnwys:-

  • Dros 1000 o gyfrifiaduron at ddefnydd y myfyrwyr – mae rhai ystafelloedd cyfrifiadurol yn agored 24 awr y dydd.
  • Hyfforddiant TG fel rhan o’ch gradd - e.e. Prosesu geiriau, taenlenni, Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (Sylfaenol ac Uwch).
  • Blackboard (Rhith Amgylchedd Dysgu masnachol), sy’n cyfrannu at brofiad dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae’n galluogi cyflwyno deunyddiau dysgu ar-lein. Fel rheol mae wedi ei drefnu’n fodiwlau neu gyrsiau a dim ond y myfyrwyr hynny sydd wedi cofrestru ar fodiwl arbennig a all weld yr adnoddau Mae hyn yn cynnwys gofod addysgu byw ar-lein o'r enw Collaborate a mynediad at recordiadau o sesiynau Prifysgol a addysgir.
  • Mynediad at y rhwydwaith yn yr holl lety en-suite ac mewn clystyrau cyfrifiaduron at ddefnydd pawb mewn lletyau eraill yn y brifysgol.

I gael mwy o wybodaeth am ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ewch i dudalennau Cefnogaeth TG.

Cefnogaeth TG