Mae Noson gyda Llofruddwyr Cyfresol yn sgwrs iasoer a phryfoclyd sy'n treiddio i feddyliau rhai o'r llofruddwyr cyfresol mwyaf drwg - enwog hanes. Bydd y noson yn cael ei harwain gan yr Athro Lucy Huskinson, Dr Bethan Loftus, a Ms Lisa Sparkes. Mae'r digwyddiad yma yn cynnig cyfle unigryw a diddorol i archwilio'r cymhellion tywyll a gwyrdroedig y tu 么l i weithredoedd erchyll yr unigolion hyn. Trwy ddadansoddiad manwl ac astudiaethau achos, bydd mynychwyr yn cael eu tywys ar daith afaelgar i feddyliau a throseddau llofruddwyr cyfresol, gan daflu goleuni ar gymhlethdodau eu hymddygiad a'r effaith y maent wedi'i chael ar gymdeithas. Mae鈥檙 sgwrs hon yn herio ein dealltwriaeth o鈥檙 natur ddynol ac yn codi cwestiynau pwysig am natur drygioni a鈥檙 ffactorau sy鈥檔 gyrru unigolion i gyflawni troseddau erchyll o鈥檙 fath. Mae "Noson gyda Llofruddwyr Cyfresol" yn argoeli i fod yn brofiad gwefreiddiol bythgofiadwy i'r rhai sy'n ddigon dewr i wynebu mannau tywyllaf troseddau dynol.
Cyn y sioe, bydd arddangosfa ar thema Calan Gaeaf yn brofiad iasoer a thywyll a fydd yn cyfuno atyniad iasol Calan Gaeaf 芒鈥檙 dynfa dywyll ynghylch llofruddwyr cyfresol drwg - enwog, treialon gwrachod, cythreuliaid a llawer mwy. Mae ymwelwyr yn cael eu trochi yn y byd tywyll hwn gydag arddangosiadau, adrodd straeon trochi, ac arddangosion eraill wedi eu creu gan arbenigwyr. Mae鈥檙 arddangosfa鈥檔 cynnig cipolwg brawychus ar hanes a meddyliau鈥檙 rhai sydd wedi cyflawni gweithredoedd treisgar cwbl annirnadwy. Gyda ffocws ar arswyd Calan Gaeaf ac erchyllterau bywyd go iawn, mae'r arddangosfa hon yn herio ymwelwyr i wynebu eu hofnau dyfnaf ac i archwilio ochr dywyllach y natur ddynol, a hynny mewn ffordd sy鈥檔 taflu rhywun oddi ar ei echel gyda phrofiad gwirioneddol听fythgofiadwy.
Digwyddiad cyfrwng Saesneg yw hwn.
Cwrs byr am ddim: Cyflwyniad i Droseddeg a Chyfiawnder Troseddol
Os yw'r digwyddiad wedi'ch cyfareddu, gwnewch yn si诺r eich bod yn archwilio ein cwrs byr听AM DDIM: Cyflwyniad i Droseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Mae'r cwrs yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o gysyniadau allweddol mewn troseddeg a sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio. Perffaith ar gyfer unrhyw un sydd am ddyfnhau eu dealltwriaeth o droseddu, gorfodi'r gyfraith, a chyfiawnder.