Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 rhaglen newydd, gyffrous hon yn seiliedig ar y datblygiadau diweddaraf o ran iechyd menywod, bydwreigiaeth a gofal mamolaeth, a bydd o ddiddordeb i fydwragedd cymwysedig.
Bydd y rhaglen hon yn herio bydwragedd i edrych yn feirniadol ar sut y gallant weithio i sicrhau bod menywod a'u teuluoedd yn cael y profiad gorau wrth roi genedigaeth. Mae ffocws cryf ar r么l annibynnol y fydwraig a sut mae gwelliannau o ran hybu iechyd y cyhoedd, darparu gwybodaeth ar sail tystiolaeth a rhoi cefnogaeth effeithiol i fenywod wneud penderfyniadau yn cydblethu i sicrhau'r profiad gorau wrth roi genedigaeth.
Mae amryw o dystysgrifau 么l-radd ar gael sy'n gysylltiedig 芒'r MSc hwn a allai fod o ddiddordeb i gydweithwyr yn y maes nyrsio, yn ogystal 芒 bydwragedd.
Mae'r rhaglen yn cynnig dull dysgu hyblyg sy'n ceisio:
- Rhoi fframwaith cadarn i fyfyrwyr ddatblygu a chyfuno gwybodaeth feirniadol a sgiliau i sicrhau bod menywod a'u teuluoedd yn cael y profiad gorau wrth roi genedigaeth.
- Hwyluso myfyrwyr i archwilio ymhellach i swyddogaeth y fydwraig o ran iechyd y cyhoedd er mwyn hyrwyddo a gwella/cynyddu geni ffisiolegol.
- Datblygu dealltwriaeth y myfyriwr o ddulliau ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Gall myfyrwyr sy'n dymuno gwneud hynny adael y rhaglen ar 么l ennill Tystysgrif 脭l-radd neu Ddiploma 脭l-radd os nad ydynt yn dymuno parhau 芒'r MSc llawn.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Bydwreigiaeth.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
I gael eich ystyried ar gyfer mynediad i'r rhaglen, dylech fod wedi eich cofrestru fel bydwraig yn eich gwlad eich hun gyda gradd dosbarth 2(ii) neu uwch. Fel arall, cewch eich ystyried os ydych yn meddu ar gymhwyster a phrofiad gwaith addas. Mae angen i fyfyrwyr hefyd ddarparu tystiolaeth o rywfaint o brofiad mewn gofal iechyd oedolion, gallai hyn fod yn arsylwadol mewn cartref gofal er enghraifft.
Sylwer: Cwrs rhan amser yw hwn felly nid yw'n agored i fyfyrwyr tramor (nad ydynt yn ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd).
Gyrfaoedd
Gwneud Cais
Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau gydol y flwyddyn. Ond, rydym yn eich cynghori i anfon eich ffurflen gais erbyn diwedd Mehefin er mwyn sicrhau y bydd gennych amser i wneud unrhyw drefniadau ar gyfer cyllido ac/neu lety, a chael gafael ar unrhyw ddogfennau megis trawsgrifiadau a geirdaon os na chawsant eu cyflwyno gyda'r cais. Bydd hyn hefyd yn rhoi rhagor o amser i chi gyflawni unrhyw amodau y gallwn eu rhoi wrth gynnig lle i chi.
Angen help i wneud cais?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ofynion mynediad, sut i wneud cais neu am y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, mae croeso i chi gysylltu 芒 Derbyniadau 脭l-radd ar +44 (0)1248 388484 neu drwy e-bostio postgraduate@bangor.ac.uk. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.