Myfyrwyr Cymraeg

Cymraeg

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Ìý

Ìý

Astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor

Fy enw llawn i yw Begw Elain Robetrs, dwi'n astudio Cymraeg gyda Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor. Dwi ar fin fynd mewn i fy ail flwyddyn.

Felly nesi ddewis Prifysgol Bangor oherwydd fy mod i yn awyddus iawn i gael y teimlad o gymuned a bod yn gartrefol, yn enwedig symud o adre am y tro cyntaf er bod adre ond tua hanner awr i ffwrdd, oni eisiau'r teimlad o fyw yn annibynnol a byw efo ffrindiau a dwi'n cael gymaint o hwyl yn JMJ hefyd.

Dwi'n meddwl y rhan gorau o'r cwrs ym Mhrifysgol Bangor ydi'r amrywiaeth yn y modiwlau.

Enwedig yn yr adran Gymraeg, da chi yn medru cael modiwlau steriotipical yn y Gymraeg. Ond wedyn mae yna modiwlau mor gyfoes sydd mor ddiddorol.

Dwi'n meddwl be ddwi'n mwynhau fwyaf am fy nghwrs i o fewn Brifysgol Bangor ydi gymaint o gyfloed sydd ar gael yma.

Mae'r adran y Gymraeg a Newyddiaduraeth yn fach fel petai ond da chi yn gallu cael gymaint mwy o gefnogaeth a mwy o gyfleoedd ag yn y diwedd da chi

fatha teulu bach a mae pawb yn ffrindiau da.

Dwi'n meddwl fy hoff beth i am Fangor ydi'r gymuned a pa mor glos ydi'r criw Cymraeg yma. Does yna ddim llawer ohonom ni i gymharu efo prifysgolion eraill.

Mae yna gymaint mwy o gyfleoedd ac mae pawb fel teulu bach ac mae'n gymaint o hwyl. Gair o gyngor fi ydi peidiwch â bod ofn, dewch i nosweithiau allan JMJ a byddwch yn rhan o'r gymuned Gymraeg yma.

Does neb yn beirniadu ac mae yna groeso yma i bawb yma ym Mangor.

Liam Smiling to Camera with beach backdrop

PROFFIL CYN-FYFYRIWR Liam Evans

Mi oedd y dair blynedd wnes i dreulio ym Mhrifysgol Bangor o blith y gorau erioed. Yma ges i gyfle i ddysgu yr hyn oedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac ehangu fy sgiliau. Mi oedd y brifysgol yn cynnig bob math o fodiwlau difyr a ges i gyfle i astudio meysydd hollol newydd. Roedd y gefnogaeth gan staff yn wych ac roeddwn yn teimlo eu bod wir yn rhoi y myfyrwyr wrth galon bob dim oedd yn digwydd.

PROFFIL CYN-FYFYRIWR Arddun Rhiannon

Gradd mewn BA Cymraeg

Astudiodd Arddun radd yn y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi bellach yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu i Mudiad Meithrin ac yn trafod y profiadau gwych a gafodd wrth astudio ym Mangor.

Ein Hymchwil o fewn Cymraeg

Mae gan Adran y Gymraeg arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith aelodau’r staff mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Rydym yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.

Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Cysylltu â ni