Baner Cyfrifiadureg

Cyfrifiadureg

Yn y 10% uchaf o blith prifysgolion y byd o ran cynaliadwyedd (QS World Rankings: Sustainability 2024).

Rydym yn gwbl ymroddedig i baratoi ein myfyrwyr i fod yn weithiwyr proffesiynol cyfrifiadurol gyda'r gallu i ddysgu am y wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfrifiadureg.

Ar y dudalen yma:
Ein cyrsiau Cyfrifiadureg

Darganfyddwch y cwrs Cyfrifiadureg i chi

Cymerwch olwg ar ein Prentisiaethau Gradd Cyfrifiadureg

Cyn Fyfyriwr - Dr Aaron Jackson

Proffil Cyn-fyfyriwr Dr Aaron Jackson

"Mae Cyfrifiadureg yn bwnc anhygoel i'w astudio oherwydd ei fod mor gysylltiedig â'r byd modern. Bydd cael dealltwriaeth dda o hanfodion cyfrifiadureg yn ddefnyddiol, waeth beth fyddwch chi'n ei wneud yn ddiweddarach mewn bywyd."Ìý

Cyn Fyfyriwr, Callum Murray

Proffil Cyn-fyfyriwr Callum Murray

"Roedd hyblygrwydd modiwlau a phrojectau'r cwrs yn golygu fy mod wedi darganfod diddordeb mewn dylunio UX a fyddai'n fy arwain at fy swydd gyntaf yn y diwydiant. Wnes i gyfarfod â fy nghyflogwr presennol trwy fy mhroject trydedd flwyddyn."

Mae fy narlithwyr yn gyfeillgar ac yn garedig iawn; cawn lawer o help ganddynt o'r ochr academaidd a'r ochr anacademaidd. ÌýMae llawer o glybiau a chymdeithasau ym Mangor hefyd acÌýmae ymuno â nhw i gymdeithasu’n anhygoel.Ìý

Gawina Fernandes,  myfyriwr Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol

Cyfleusterau Rhagorol

Fel myfyriwr yma, byddwch yn gwneud defnydd o’n cyfleusterau ardderchog sy’n cynnwys:

  • Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.Ìý
  • Labordy technolegau trochi sydd wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
  • Labordy rhwydweithio mawr sydd wedi cael ei sef ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi cyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron.Ìý

Rhithdaith 360 o'n cyfleusterau ardderchog

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Cyfrifiadureg.Ìý

Ìý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cyfrifiadureg llwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Cyfrifiadureg ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Cyfrifiadureg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Ìý

Ein Hymchwil o fewn Cyfrifiadureg

Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys graffeg gyfrifiadurol, delweddu, canfod gwybodaeth a chyfathrebu. Caiff arbenigedd yn y meysydd hyn ei ymgorffori yn ein gweithgareddau dysgu, gan roi llwybr uniongyrchol i fyfyrwyr i'r ymchwil ddiweddaraf mewn Cyfrifiadureg.Ìý

Mae ein hymchwil wedi gwneud yn eithriadol o dda, ac mae tystiolaeth o hynny yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.ÌýÌý

Trefnir ein gweithgareddau ymchwil mewn tri grŵp ymchwil, sy'n gorgyffwrdd i wneud y gorau o adnoddau a chyfleoedd i gydweithio.Ìý

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd