Sefydlwyd y Bwrdd Ymgynghorol Alumni yn 2006 fel gr诺p ymgynghorol anllywodraethol o alumni'r Brifysgol sydd wedi cadw mewn cysylltiad 芒'u alma mater ac sy'n rhannu diddordeb yn nhwf sylfaen gadarn o gyn-fyfyrwyr sy'n cymryd rhan ym materion y brifysgol. Diben y Bwrdd yw cynrychioli'r gymuned alumni ehangach a rhoi barn ac awgrymiadau i'r Brifysgol ar y materion hynny sydd o ddiddordeb i alumni.聽
Mae aelodau'r bwrdd yn hyrwyddo ac yn cyfathrebu cenhadaeth a gweledigaeth Bangor, gan weithio i symud rhaglen gysylltiadau alumni'r Brifysgol yn ei blaen. Maent yn cefnogi鈥檙 Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni mewn sawl ffordd, gan gynnwys cynorthwyo i greu sylfaen o arweinwyr gwirfoddol o blith alumni, cynllunio a rheoli digwyddiadau alumni a chynorthwyo i nodi aelodau newydd posibl neu alumni a allai fod yn barod i ymwneud 芒'r Brifysgol.
Aelodau Alumni
Cadeirydd:
Dr George Buckley (1993, Economeg)
George Buckley yw Prif Economydd y DU i Nomura. Ymunodd 芒 Deutsche Bank fel Prif Economydd y DU ym 1998 ar 么l cwblhau doethuriaeth ym maes marchnadoedd tai a morgeisi ym Mhrifysgol Bryste. 聽Tra roedd ym Mryste, bu George yn darlithio a dysgu macro-economeg i israddedigion.聽
Mae ganddo MSc mewn cyllid ac economeg o鈥檙 un brifysgol a BA economeg o Brifysgol Bangor. 聽Ef yw awdur y llyfr 鈥淲hat You Need to Know About Economics鈥 (2011).聽
Mae George hefyd yn un o aelodau sefydlu Gr诺p 2020 Bangor, gr诺p busnes i gyn-fyfyrwyr Bangor sy鈥檔 aros mewn cysylltiad 芒鈥檙 brifysgol ac yn cynorthwyo mewn amryw o ffyrdd, yn cynnwys codi proffil y brifysgol mewn marchnadoedd allweddol. 聽Penodwyd George yn gadeirydd y Bwrdd Ymghynorol Alumni ym mis Mawrth 2015.
Emyr Afan OBE (1985, Cymraeg)
Mae Emyr Afan OBE, Prif Swyddog Gweithredol Afanti Media Ltd yn gynhyrchydd teledu arobryn gyda Bafta, mae鈥檔 gyfarwyddwr aml-gamera ac mae鈥檔 greadigol ei syniadau.聽
Ym 1995, cyd-sefydlodd Afanti Media (Avanti Media gynt), ac fel Prif Swyddog Gweithredol, adeiladodd un o鈥檙 cwmn茂au teledu mwyaf hirhoedlog a llwyddiannus yng Nghymru, a鈥檙 cyfleusterau darlledu allanol mwyaf helaeth.
Mae cwmni Afanti yn uchel ei barch am ddarparu sioeau a fformatau hynod lwyddiannus, gan gynnwys rhaglenni dogfen, darllediadau allanol mawr, digwyddiadau adloniant a cherddoriaeth i ddarlledwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Arweiniodd Emyr nifer o gomisiynau proffil uchel i鈥檙 rhwydwaith fel ''Showtime' a 鈥淟ife Drawing Live!' ac 'Inside Classical' i鈥檙 BBC, a 'The Perfect Pitch' i Channel 4. Ymhlith y comisiynau diweddar y bu鈥檔 Gynhyrchydd Gweithredol arnynt mae 鈥楾he World鈥檚 Biggest Cruise Ship鈥 i C4 a Secrets of the Lost Mines i BBC1.
Cafodd Emyr ei enwi鈥檔 Brif Swyddog Gweithredol Mwyaf Dylanwadol Cymru (Y Cyfryngau) yn 2024 a dyfarnwyd OBE iddo yn Rhestr Pen-blwydd y Brenin 2024 am ei wasanaethau i鈥檙 Cyfryngau a Cherddoriaeth. Cafodd ei enwi fel Entrepreneur y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2024 ar 么l ennill Busnes y Flwyddyn Caerdydd a Busnes Creadigol y Flwyddyn yn 2023.聽
Astudiodd Emyr Gymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Bangor a chyfarfu 芒'i wraig Mair a oedd hefyd yn astudio yn yr Adran Gerdd ym Mangor. Cyfarfu ei rieni hefyd pan oeddent yn astudio ym Mhrifysgol Bangor!
Tim Clay (1982, Bioleg M么r / Eigioneg)
Ymunodd Tim 芒'r diwydiant gwasanaethau ariannol ar 么l graddio o Brifysgol Bangor yn 1982. 聽Roedd yn gyd-sylfaenydd Clay Rogers & Partners Ltd, un o brif gwmn茂au cynllunio ariannol annibynnol Birmingham, cyn i'r busnes hwn ddod i feddiant Succession Group ym Medi 2016. 聽 Ymddeolodd Tim o'i r么l ymgynghorol gydag Succession ym mis Tachwedd 2023.聽
Cyfarfu Tim 芒'i wraig, Laura, pan oedd y ddau yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ac maent yn dychwelyd bob blwyddyn, gyda'u plant sydd bellach wedi tyfu i fyny, ar gyfer penwythnos yr Hen Ser.
Mae'n hoff o chwaraeon a chodi arian i elusennau ac yn Gadeirydd Rhanbarthol Gorllewin Lloegr The Lord's Taverners. Un o'i "dalentau" eraill yw bod yn un o'r prif gantorion mewn 'cover band', sydd dros y blynyddoedd wedi helpu i godi dros 拢500k i elusennau.
Jane Griffin (1993, Ffrangeg)
Jane yw sylfaenydd a chyfarwyddwr - ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus strategol sy'n arbenigo mewn cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer busnesau technoleg newydd a chwmn茂au diwydiannol byd-eang.
Mae Jane yn gyn-ohebydd newyddion teledu a radio ar gyfer y BBC ac ITV ac mae ganddi fwy na phum mlynedd ar hugain o brofiad yn rhychwantu newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus.
Mae hi wedi gweithio gydag asiantaethau ac yn fewnol ac arferai fod yn Bennaeth Cysylltiadau Cyfryngau Byd-eang a Seilwaith yn y cwmni peirianneg, rheoli prosiect ac adeiladu blaenllaw, Bechtel, am saith mlynedd. Bu hefyd yn Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol am bedair blynedd ar gyfer Angel Trains Group, sy'n rhan o Gr诺p Banc Brenhinol yr Alban. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn uwch-swyddi cysylltiadau 芒鈥檙 cyfryngau gyda BAE Systems, Network Rail, Eurotunnel ac ATOC.聽
Kailesh Karavadra (1989, Peirianneg Electronig)
Kailesh Karavadra yw Rheolwr Marchnadoedd Twf Rhanbarth y Gorllewin Ernst and Young, yn Silicon Valley, ac mae'n gyfrifol am bortffolio sy'n cynnwys rhai o brif gwmn茂au technoleg y byd.
Fe'i ganed yn Kampala, Uganda i rieni o India, a daeth i Brydain fel ffoadur. Dewisodd ddod i Fangor yn lle Prifysgol Rhydychen i astudio BSc mewn Peirianneg Electronig, a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1989, ac arhosodd ym Mangor i wneud gradd Meistr mewn Peirianneg, gan ychwanegu modiwlau cyfrifyddu ac ariannol ychwanegol at ei raglen Meistr.
Ymunodd Kailesh ag Ernst & Young fel cyfrifydd yn eu swyddfeydd yn Luton a Llundain ar ddechrau'r 1990au ac ym 1995, trosglwyddodd i swyddfa San Jose Ernst & Young ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau
Ochr yn ochr 芒 gyrfa brysur a bywyd teuluol, mae Kailesh yn gwneud gwaith gwirfoddol helaeth gyda nifer o elusennau gan gynnwys y Food Rescue Mission yn San Jose a rhaglen Small Business Ignite Mentoring y Maer i hybu twf busnesau bach. Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am Wasanaethau i Fusnes yn 2017.
Mark Rigby (1979, Amaeth)
Ar 么l graddio o Fangor yn 1979, cwblhaodd Mark radd Meistr mewn Gwyddor Bwyd ym Mhrifysgol Nottingham.聽
Gan gyfuno gwaith 芒'i gariad at rygbi, treuliodd Mark yr 20 mlynedd nesaf yn y sector masnach amaeth a'r sector amaeth-gemegolion a chael swyddi cyfrifol. 聽Ymunodd 芒 gr诺p teuluol T H White yn 1999 er mwyn sefydlu cyfadran llwytho lor茂au genedlaethol (craeniau), a gyda Palfinger, aeth 芒 nhw i'r safle cyntaf yn 2006 lle maent wedi aros byth ers hynny. 聽Cafodd Mark sedd ar fwrdd gr诺p T H White (Holdings) yn 2006. 聽Cyn hynny roedd wedi bod yn aelod o fwrdd Cymdeithas Amaethyddol Prydain a Sumitomo Agriculture. 聽Mae'n briod ac mae ganddo ddau o blant sydd wedi gadael y nyth, ac mae'n parhau i chwarae rygbi i d卯m hen chwaraewyr Bangor bob blwyddyn ac mae'n mwynhau bwyd a gwin da.
Dr Britta Taylor (2013, Bioleg Canser)聽
Ar hyn o bryd mae Britta yn gweithio fel Rheolwr Treialon Clinigol ar Dreialon Clinigol Oncoleg, sy'n ei hysgogi a'i gwobrwyo bob dydd. Adeiladodd ar ei gradd mewn Bioleg Canser o Brifysgol Bangor gydag M.Sc. mewn Bioleg B么n-gelloedd Moleciwlaidd a Datblygiadol o Brifysgol Bochum, yr Almaen, PhD mewn Oncoleg Pediatreg o Brifysgol Heidelberg, yr Almaen a Diploma 脭l-radd mewn Meddygaeth Arbrofol (Canser) o Brifysgol Manceinion. Mae Britta yn ddiolchgar iawn iddi gael y cyfle ym Mangor i arbenigo mewn Bioleg Canser mor gynnar yn ei gyrfa ac i weithio ym maes Oncoleg byth ers hynny.聽
Mae Britta, sy鈥檔 dod yn wreiddiol o鈥檙 Almaen ac a symudodd i鈥檙 Deyrnas Unedig ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch, yn falch o fod wedi aros yn y wlad am fwy o amser i astudio tuag at B.Sc. ym Mangor gan mai dyna lle y cyfarfu 芒'i g诺r bellach. Maent yn dychwelyd yn rheolaidd i Fangor i ail-fyw hen atgofion ac yn methu aros i fynd 芒'u merch yno i ddangos iddi lle y cyfarfu Mami a Dadi.
Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Bangor, bu鈥檔 alwr ar gyfer ymgyrchoedd Cronfa Bangor y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, roedd yn rhan o鈥檙 gymdeithas RAG a鈥檙 Clwb Athletau y mae鈥檔 dal i gyfarfod 芒 nhw鈥檔 rheolaidd ac yn dal i redeg/cystadlu mewn rasys 芒 nhw. Ers graddio, mae Britta wedi parhau i fod yn gefnogwr mawr i Brifysgol Bangor ac wedi cyfrannu at nifer o weithgareddau myfyrwyr a recriwtio cyn-fyfyrwyr.
Peter Waziri (Bancio, Yswiriant a Chyllid, 1987)
Ar 么l graddio o Brifysgol Bangor yn 1988, bu Peter yn gweithio fel dadansoddwr yn y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd cyn symud i鈥檙 Unol Daleithiau fel derbynnydd Ysgoloriaeth Sefydliad y Rotari yn cynrychioli Clwb Rotari Bangor. Gwasanaethodd fel hyrwyddwr diwylliannol ac ewyllys da yn cynrychioli Cymru gyfan a gogledd Lloegr. Wedi hynny, enillodd ei MBA mewn Rheolaeth Ryngwladol a Chyllid o Brifysgol Case Western Reserve yn Cleveland, Ohio. Ar hyn o bryd mae Peter yn aelod o fwrdd Xpress Wellness Urgent Care yn yr Unol Daleithiau. Mae hefyd yn gyn-aelod o Fwrdd Buddsoddi Prifysgol Bangor, a Reliance eHealth Collaborative, sef cydweithrediad cyfnewid gwybodaeth iechyd yn yr Unol Daleithiau.
Mae profiad Peter hefyd yn cynnwys gwasanaethu fel Prif Swyddog Cyllid gofal iechyd ar gyfer tri chwmni yn yr Unol Daleithiau, yn fwyaf diweddar yn Parkland Community Health Plan yn Texas. Cyn hyn, treuliodd dros 20 mlynedd yn gweithio yn y sectorau bancio buddsoddi/corfforaethol, ecwiti preifat, rheoli buddsoddiadau a marchnadoedd cyfalaf yn yr Unol Daleithiau. Penllanw hyn oedd sefydlu Warspite Capital Advisors lle bu鈥檔 cynghori cleientiaid ar strategaethau buddsoddi mewn egin-farchnadoedd a phrojectau a noddir gan yr FDIC sy'n cynnwys trafodion gwaranteiddio a gwerthu strwythuredig cymhleth.
Mae Peter yn chwaraewr p锚l-droed a thenis brwd, ac yn ddarllenwr rheolaidd o gyfnodolion busnes.
Jonathan Wright (1999, Polisi Cymdeithasol / Trosedddeg a Chyfiawnder Troseddol)
Mae Jonathan yn Llywydd Rhyngwladol Hearst Magazines. Mae o'n cyn-Gyfarwyddwr Rheoli Byd-eang Dow Jones, Cyfarwyddwr News Corp鈥檚 VCCircle a Chyfarwyddwr Newspicks, lle oedd yn gyfrifol am lunio a gweithredu strategaethau twf ar gyfer The Wall Street Journal a Dow Jones tu allan i'r Unol Daleithiau.
Wedi'i ysbrydoli'n rhannol gan feddyliau am yrfa bosibl yn y fyddin neu wasanaeth amddiffyn brenhinol a diplomyddol yr heddlu, dewisodd Jonathan astudio Trosedddeg ym Mhrifysgol Bangor ond, ar 么l symud i Lundain, cafodd swydd ym maes gwerthiant hysbysebion a daeth i ymddiddori'n fawr ym musnes y cyfryngau. 聽Ymunodd 芒 Dow Jones yn 2010 fel Cyfarwyddwr Gwerthiant Hysbysebu i Financial News Dow Jones 聽a chyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi a Gwerthiant Gr诺p gydag Euromoney Institutional Investor yn Efrog Newydd.
Jonathan yw Cyswllt ac Ymgynghorydd Rhyngwladol y Bwrdd Ymgynghorol Alumni. Mae ei gysylltiadau 芒 Bangor yn mynd yn 么l i 1910 pan raddiodd ei hen-nain o'r Brifysgol gyda BA mewn Saesneg.
Yn ei amser hamdden, mae'n hoffi gwylio ei ddau blentyn yn chwarae rygbi ac mae'n cadw'n heini trwy ymarfer ar gyfer marathonau a phrofion dygnwch, megis beicio o Lundain i Monte Carlo. Mae'n mwynhau theatr leol ac, yn ystod ei amser yn Efrog Newydd, cynhyrchodd dair drama oddi ar Broadway.