Graddau er Anrhydedd 2023

Am Wasanaeth Cyhoeddus (gan gynnwys Iechyd)

Dr Pauline Cutting yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Mae Dr Pauline Cutting OBE, cyn-lawfeddyg mewn ardaloedd rhyfela, yn byw yng ngogledd Cymru ers 40 mlynedd. Yng nghanol y 1980au, roedd yn llawfeddyg gwirfoddol gyda Chymorth Meddygol i Balestina (MAP). Pan oedd yng ngwersyll ffoaduriaid Bourj al Bourajneh, bu鈥檔 brwydro i achub bywydau yng nghanol bomio cyson. Nid oedd gan Dr Cutting unrhyw gysylltiad 芒 gweddill y byd ond llwyddodd i gyfleu鈥檙 sefyllfa i newyddiadurwyr yn y diwedd trwy ryw lun o antena radio ac atseiniodd ei haddewid i 'fyw neu farw' gyda phobl y gwersyll ledled y byd.聽

Er ei bod wedi ymddeol, mae'n parhau i weithio un diwrnod yr wythnos fel meddyg brys yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd, yn yr adran y bu鈥檔 feddyg arbenigol meddygaeth frys cyntaf yr ysbyty.

Llun o Dr Tina Barsby yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

聽Genetegydd planhigion a chyn fyfyrwraig Prifysgol Bangor yw Dr Tina Barsby OBE ac mae'n enwog am ei llwyddiannau gwyddonol a'i phrofiad yn y sector cnydau amaethyddol. Hi yw Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol, a鈥檙 ddynes gyntaf i fod yn brif weithredwr yn hanes y sefydliad dros 90 mlynedd. Graddiodd mewn botaneg amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor, cafodd OBE yn Rhestr Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd 2018 am wasanaethau i鈥檙 gwyddorau amaethyddol a biotechnoleg.

Yr Athro Iwan Davies yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

聽Bu鈥檙 Athro Iwan Davies yn Is-ganghellor Prifysgol Bangor rhwng 2019 a 2022. Arweiniodd y brifysgol trwy heriau nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen yn ystod y pandemig. Ymhlith ei lwyddiannau arwyddocaol oedd cyhoeddi Ysgol Feddygol annibynnol yng ngogledd Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae鈥檔 awdurdod blaenllaw ar gyfraith fasnachol ryngwladol ac mae ganddo ddiddordeb penodol ym maes cyllid asedau, eiddo deallusol a chyfraith eiddo personol. Mae ganddo raddau o brifysgolion Aberystwyth, Caergrawnt a Chaerdydd ac mae鈥檔 fargyfreithiwr. Cafodd ei wahodd a'i alw i'r Bar am ysgolheictod academaidd o fri ym maes y gyfraith.

Am Wasanaeth i Fusnes ac Entrepreneuriaeth

Llun o Mr Richard Broyd yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Mae Richard Broyd OBE yn ddyn busnes, yn gadwraethwr ac yn ddyngarwr. Gwelodd Richard gyflwr gwael plastai gwledig hardd a oedd yn mynd yn adfeilion, a sefydlodd Historic House Hotels. Y plasty cyntaf a brynodd oedd Neuadd Bodysgallen yn Llandudno, a adeiladwyd yn y 17eg ganrif, a chadarnhaodd hyn ei gariad at Gymru. Rhoddodd Richard ei gwmni cyfan a鈥檌 asedau i鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y rhodd unigol fwyaf i鈥檙 elusen ei derbyn erioed. Mae ganddo gysylltiadau cryf 芒 gogledd Cymru ac mae'n gefnogwr selog i聽 elusennau Cymru, yn arbennig Rheilffordd Ffestiniog a鈥檙 gwaith o ailadeiladu Rheilffordd Ucheldir Cymru.聽

Am Gyfraniad i Ddiwylliant, Iaith, Cerddoriaeth a鈥檙 Celfyddydau yng Nghymru

Mr Dafydd Iwan yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

聽Canwr a gwleidydd yw Dafydd Iwan a ddaeth yn enwog am ysgrifennu a pherfformio caneuon a cherddoriaeth werin Gymraeg.聽 Rhwng 2003 a 2010, ef oedd llywydd Plaid Cymru.聽Dafydd yw llysgennad diwylliannol Cymdeithas B锚l-droed Cymru ac arweiniodd g芒n swyddogol yr ymgyrch Yma o Hyd mewn gwahanol fannau i gefnogi鈥檙 t卯m cenedlaethol yng Nghwpan y Byd 2022 ac i godi proffil Cymru a鈥檙 Gymraeg.

Am Wasanaeth i Addysg

Steve Backshall yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

聽Mae Steve Backshall MBE yn un o gyflwynwyr, naturiaethwyr, awduron ac anturiaethwyr byd natur mwyaf adnabyddus y byd teledu. Mae鈥檔 ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn dysgu myfyrwyr Bangor am gadwraeth, s诺oleg a鈥檙 diwydiant ffilmio bywyd gwyllt. Mae darlithoedd Steve ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd ac mae cynlluniau ar y gweill i wneud ffrydiau byw o leoliadau ffilmio a theithiau maes Steve.

Llun o Dr Salamatu Jidda-Fada yn Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Gwyddonydd cadwraeth ac addysgwr a aned yn Nigeria yw Dr Salamatu Jidda-Fada. Bu鈥檔 gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Cadwraeth ar Sail Tystiolaeth rhwng 2016 a 2018, ac ar hyn o bryd mae鈥檔 ymchwilydd gwadd yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Salamatu鈥檔 dal i fyw ym Mangor, ac mae hi鈥檔 gweithio fel ymgynghorydd cadwraeth yn hyrwyddo Cymru wyrddach ac ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru. Oherwydd ei gwaith fel sylfaenydd Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica, mae Salamatu wedi cyfrannu at Gr诺p Cynghorol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Llywodraeth Cymru ac mae hi鈥檔 aelod ac yn Is-gadeirydd Dysgu Oedolion Cymru. Mae hi hefyd yn aelod ymgynghorol o鈥檙 RSPB Cymru a hi yw鈥檙 person du cyntaf i gael ei hethol yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Bangor.聽

Am Lwyddiant mewn Chwaraeon

Llun o Caradoc Jones yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Caradog 'Crag' Jones oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest ym mis Mai 1995 yn 33 oed.聽 Graddiodd gyda gradd BSc ym Mioleg y M么r ac Eigioneg ym Mhrifysgol Bangor ym 1982. Ar 么l y ddringfa fawr, daeth yn boblogaidd fel cyflwynydd rhaglenni teledu i ddringwyr ifanc ac wrth gefnogi grwpiau dringo a cherdded yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Crag yn gweithio fel ymgynghorydd pysgodfeydd. Mae鈥檔 parhau i ddringo a theithio ac mae hefyd yn mwynhau rasio beiciau mynydd i lawr allt.聽

Am Cyfraniad Rhanbarthol i Gerddoriaeth

Llun o Mr Gwyn Evans yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Gwyn Evans yw cyn-arweinydd Seindorf Biwmares. Mae wedi dysgu miloedd o blant o鈥檙 ardal i chwarae offerynnau pres ers dros 25 mlynedd. Mae wedi arwain Seindorf Biwmares i ennill prif gystadlaethau Prydain a chodi safon a sgiliau pobl ifanc a鈥檜 hysgogi i ymddiddori mewn bandiau pres. Tra鈥檔 ysgrifennu ac yn addasu trefniadau cerddorol i Seindorf Biwmares, mae Gwyn yn awyddus bob amser i hybu Cymreictod a diwylliant cerddorol Cymru ac mae wedi gwneud hynny ledled y byd.聽

Am Gwasanaeth i Addysg Uwch a/neu Llywodraethu

Yr Athro Gareth Ffowc Roberts yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Mae鈥檙 Athro Gareth Ffowc Roberts, yn gyn Ddirprwy Ganghellor ac yn gyn aelod o Gyngor Prifysgol Bangor. Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Rhydychen, a bu Gareth yn gweithio'n helaeth ym myd addysg yng Nghymru cyn dod yn bennaeth y Coleg Normal, Bangor. Ar 么l i'r coleg uno 芒 Phrifysgol Cymru, Bangor, daeth Gareth yn Ddirprwy Is-ganghellor ac yn Athro Addysg. Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bu鈥檔 goruchwylio darpariaeth cyfrwng Cymraeg y brifysgol.聽

Am Ysgolheictod ac Arloesedd Rhagorol

Llun o Dr Dafydd Owen yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Dr Dafydd Owen arweiniodd y t卯m cyn-glinigol amlddisgyblaethol a ddarganfu PAXLOVID, y driniaeth eneuol gyntaf i Covid-19 a gymeradwywyd gan yr FDA. Mae ganddo bum mlynedd ar hugain o brofiad fel fferyllydd meddyginiaethol yn dylunio ac yn syntheseiddio moleciwlau tebyg i gyffuriau i Pfizer Research & Development yn eu canolfannau ymchwil yn y Deyrnas Unedig a鈥檙 Unol Daleithiau.聽