快活影院

Emma Chappell yw Dysgwr y Flwyddyn

Testun llawenydd mawr oedd clywed fod Emma Chappell a fynychodd gyrsiau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor ac yn gweithio yn y Brifysgol yn Y Ganolfan Rheolaeth, wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol M么n eleni. 

Fe鈥檌 anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig nos Fercher, yng Ngwesty Tre Ysgawen, Llangefni, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.  Y beirniaid eleni oedd Jenny Pye, R Alun Charles a Nia Roberts.

Ganwyd Emma Chappell yng Nghaergrawnt ac fe鈥檌 magwyd yn Royston, Hertfordshire, ond erbyn hyn, mae鈥檔 byw ym mhentref Deiniolen ar lethrau鈥檙 Wyddfa yma yng Nghymru.  Mae ganddi hi a鈥檌 phartner Arwel ddau fab, Deion a Guto sy鈥檔 siarad Cymraeg ac yn mynychu鈥檙 ysgol leol.  Aeth Emma ati i ddysgu Cymraeg ar 么l cyfarfod ei phartner.  Gwyddai fod yr iaith a hunaniaeth genedlaethol yn bwysig iawn iddo fo, ac felly, aeth ati i ddysgu鈥檙 iaith yn iawn.  Roedd yn byw yn Warrington ar y pryd, ac yn ffodus, roedd dosbarth nos yn y dref, ac yna, pan symudodd i Gymru, aeth ati鈥檔 syth i ddysgu Cymraeg gyda chriw Cymraeg i Oedolion.

Mae Emma鈥檔 defnyddio Cymraeg yn ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor bob dydd, gyda chwsmeriaid, myfyrwyr, staff a chontractwyr, ac mae hefyd yn rhan o鈥檙 gr诺p gweithredu鈥檙 Gymraeg ac wedi bod yn helpu rhai o鈥檙 staff gyda鈥檜 Cymraeg.  Cymraeg hefyd yw iaith yr aelwyd, a鈥檌 bywyd cymunedol yn y pentref Cymraeg ei iaith, ac mae Emma鈥檔 chwarae rhan lawn ym mywyd y pentref.

Dywedodd Emma, 鈥淏yddwn i鈥檔 hoffi datblygu fy Nghymraeg yn y gwaith ac adra.  Dwi鈥檔 gwybod fel mae鈥檙 plant yn tyfu y bydd 鈥榥a fwy o sefyllfaoedd pan mae鈥檔 bwysig i ddeall beth sy鈥檔 mynd ymlaen.  Gobeithio rydw i'n gallu ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg a byw eu bywydau yn yr iaith hefyd.  Mi faswn i'n hoffi dweud diolch yn fawr i'r tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion a Chanolfan Bedwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.鈥

Derbyniodd Emma dlws arbennig, yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a 拢300 (Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor).  Cafodd y tlws unigryw eu cynllunio a鈥檜 creu gan Emma Smith a Naomi Williams, ill dwy yn fyfyrwyr Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2017