Apeliadau Academaidd
Ap锚l a wneir yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholi neu gais dilynol i adolygu canlyniad ap锚l flaenorol yw ap锚l academaidd. Mae'r Drefn Apeliadau Academaidd yn berthnasol i fyfyrwyr ar bob rhaglen hyfforddedig ac ar bob rhaglen ymchwil 么l-radd a dylid ei darllen cyn cyflwyno ap锚l.
Ni allwch gwestiynu barn academaidd darlithydd neu arholwr. Mae hyn yn golygu na chewch gwestiynu marc a gawsoch am waith cwrs am eich bod yn credu bod y marc yn rhy isel, ond cewch apelio yn erbyn y penderfyniad os credwch y bu camgymeriad wrth gyfrifo'r marc, bod diffygion neu afreoleidd-dra o ran sut y cawsoch eich asesu neu mewn unrhyw gyfarwyddiadau ysgrifenedig neu gyngor yngl欧n ag asesiadau. Os yw'r mater wedi effeithio ar eraill yn ogystal 芒 chi, gallwch gyflwyno eich ap锚l ar y cyd fel gr诺p, gyda chydsyniad y gr诺p.
Cewch gyflwyno ap锚l academaidd hefyd os oes amgylchiadau arbennig a allai fod wedi cael effaith negyddol ar eich perfformiad academaidd. Er hynny, os na roddwyd gwybod am yr amgylchiadau arbennig i'r Bwrdd Arholi cyn ei gyfarfod, bydd rhaid i chi egluro'n llawn pam na roddwyd gwybod am yr amgylchiadau ar y pryd er mwyn penderfynu a ellir derbyn yr amgylchiadau'n hwyr.
Rhaid cyflwyno apeliadau academaidd yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflenni isod ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich ap锚l.
Dylech hefyd sicrhau bod y ffurflenni hyn yn cael eu cyflwyno cyn pen 20 diwrnod gwaith ar 么l derbyn penderfyniad Bwrdd Arholi a dylech anfon eich ap锚l i聽appeals@bangor.ac.uk听/听apeliadau@bangor.ac.uk
Er mwyn i ni ystyried eich ap锚l, dilynwch y canllaw hwn:
Mae angen gwybodaeth arnom
Gallwch gyflwyno ap锚l ar 么l i chi dderbyn penderfyniad cychwynnol y Bwrdd Arholi.
Darllenwch yr adran ar apeliadau yn y聽Drefn Apeliadau Academaidd聽cyn cyflwyno'r ffurflen hon.
Sicrhewch eich bod yn llenwi o leiaf un o'r adrannau wrth ddilyn y canllawiau ar y ffurflen ac, os yn bosib, yn darparu unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer eich ap锚l.
Rhaid i ap锚l gael ei gyflwyno o fewn 20 diwrnod gwaith ar 么l y dyddiad y mae myfyriwr yn derbyn penderfyniad y Bwrdd Arholi.
I gyflwyno ap锚l bydd rhaid i chi lenwi'r聽Ffurflen Ap锚l (A).
Cewch ymateb i'ch ap锚l gan yr ysgol gan ddefnyddio Ffurflen B. Os nad ydych yn fodlon 芒'r ymateb, gallwch ofyn am adolygiad gan ddirprwy is-ganghellor.
Gwneud cais am adolygiad
Dim ond ar 么l cwblhau'r cam apelio y gallwch gyflwyno cais am adolygiad.
Darllenwch yr adran ar adolygiadau yn y聽Drefn Apeliadau Academaidd聽cyn cyflwyno'r ffurflen hon.
Sicrhewch eich bod yn llenwi o leiaf un o'r adrannau wrth ddilyn y canllawiau ar y ffurflen ac, os yn bosib, yn darparu unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer eich cais.
Rhaid cyflwyno ceisiadau am adolygiad o fewn 10 diwrnod i鈥檙 dyddiad yr hysbysir y myfyriwr am ganlyniad ap锚l.
Bydd rhaid i chi lenwi'r聽Ffurflen Adolygu (C).
Rhoi gwybod am ganlyniad
Cewch ymateb unwaith y bydd eich cais wedi ei ystyried.
Trefn adrodd
Cyflwynwch eich ap锚l neu gais am adolygiad trwy e-bost i聽appeals@bangor.ac.uk听/听apeliadau@bangor.ac.uk
Os yw'n well gennych, gallwch anfon eich cwyn trwy'r post i'r cyfeiriad canlynol: Prifysgol Bangor,聽Uwch Swyddog Diogelu, Ymddygiad a Chwynion, Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio,Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio, Reichel, Ffriddoedd Site, Bangor, LL57 2TW
Camau dilynol
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau, gweithredoedd neu apeliadau sy'n codi o'r broses apelio at yr聽Uwch Swyddog Diogelu, Ymddygiad a Chwynion Myfyrwyr.
Cwestiynau Cyffredin
Gweler ein聽cwestiynau cyffredin聽am restr o gwestiynau ac atebion cyffredin.