快活影院

Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn cerdded tu allan i Adeilad y Celfyddydau

Diwrnod Agored Bach - mynediad ym Medi 2025

Diddordeb mewn astudio cwrs israddedig ym Medi 2025? Os ydych dal yn ystyried eich opsiynau, dewch i'r Diwrnod Agored Bach ar Ddydd Gwener, 24 Ionawr 2025.

Cofrestru nawr

5 rheswm i ddod i'r Diwrnod Agored Bach ar Ddydd Gwener, 24 Ionawr

Ewch am dro trwy gampws y Brifysgol lle cewch eich amgylchynu gan ein hadeiladau trawiadol a鈥檙 golygfeydd syfrdanol o fynyddoedd Eryri. Cewch weld ei fod y lle perffaith i ddysgu ac i ddatblygu鈥檔 bersonol.
Os rydych yn angerddol am yr amgylchedd, eisiau dysgu mwy am fyd busnes, yn awyddus i wybod am y dechnoleg ddiweddaraf, mae gan Fangor amrywiaeth o gyrsiau a byddwch yn sicr o ffeindio un fydd i鈥檆h siwtio.
Mae ein staff dysgu profiadol wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd ddysgu cefnogol a chyffrous lle byddwch yn rhagori yn academaidd ac yn datblygu鈥檔 bersonol. Bydd ein cymuned gyfeillgar o 听fyfyrwyr ar gael hefyd i rannu eu profiadau o fywyd myfyriwr ym Mangor.听
Mae鈥檙 Diwrnod Agored yn gyfle gwych i ddod i adnabod y Brifysgol a鈥檌 hadeiladau. Os nad ydych eisoes yn gyfarwydd 芒鈥檙 ardal, efallai byddwch hefyd yn dymuno ymweld 芒 dinas Bangor a鈥檙 ardal gyfagos yn ystod eich ymweliad. 听
Mae ein llety yn fodern ac o fewn pellter cerdded o fwyafrif o adeiladau鈥檙 Brifysgol. Nid yw鈥檔 syndod felly ein bod wedi ein gosod yn y 3 uchaf yn y DU am Neuaddau a Llety yng ngwobrau What Uni 2023. 听

Yn ystod y Diwrnod Agored Bach, cewch:

  • Sgwrsio gyda staff a myfyrwyr presennol i gael gwybodaeth am astudio eich dewis cwrs ym mis Medi
  • Ymweld 芒鈥檔 llety myfyrwyr sydd wedi eu gosod yn y 3 Uchaf yn y DU听(Gwobrau WhatUni? 2023)听
  • Ymweld 芒鈥檙 cyfleusterau chwaraeon
  • Ymweld 芒鈥檙 ardal arddangos i ganfod mwy am yr ystod eang o wasanaethau cefnogol ac Undeb y Myfyrwyr听

Gweld y rhaglen lawn听

Gadewch i ni wybod o flaen llaw dros ebost听os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.听

Wedi gwneud cais am gwrs yn cychwyn ym Medi 2025?

Os ydych wedi gwneud cais i astudio yma, cewch wahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr drwy'r post / e-bost. Mae'r Diwrnodau i Ymgeiswyr yn gyfle gwych i chi gael gwell dealltwriaeth o'ch cwrs ac i ddod i wybod mwy am eich opsiynau llety.听

Archebwch eich lle ar y Diwrnod Agored Bach

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Yn ogystal 芒鈥檙 addysgu rhagorol a鈥檙 adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy鈥檔 cyfrannu at wneud y听profiad o astudio yma yn un unigryw.听Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal 芒 hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Byw mewn Llety modern sy'n gyfleus a chyfforddus

Byddwch yn teimlo'n gartrefol yn ein neuaddau preswyl. Mae ein llety yn fodern ac yn gyfforddus ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol. Cewch ddewis byw yn o'r ddau bentref myfyrwyr.

Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.

Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd

Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a鈥檜 cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.

Student playing basketball

Dewis eang o Glybiau a Chymdeithasau

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill.听Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigon i'ch cadw'n brysur yn eich amser hamdden.

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!

[0:07] Welcome to 快活影院 Open Day!

[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.

[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?听Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR听

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?听

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?听
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?听
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?听

Sgwrsiwch gyda darlithydd