Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r MA Gwaith Cymdeithasol hwn yn Rhaglen Gymhwyso Broffesiynol.
Mae gwaith cymdeithasol yn newid bywydau ac mae gyrfa mewn gwaith cymdeithasol yn amrywiol ac yn rhoi boddhad. Mae鈥檙 MA 2 flynedd hwn mewn Gwaith Cymdeithasol yn darparu llwybr i ymarfer gwaith cymdeithasol proffesiynol, ac mae鈥檔 cynnwys modiwlau academaidd wedi鈥檜 hategu 芒 lleoliadau ymarfer. Mae hyn yn rhoi鈥檙 sgiliau i fyfyrwyr ac yn eu paratoi i gymhwyso fel gweithwyr cymdeithasol a dechrau swyddi gwaith cymdeithasol proffesiynol o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol.听
Caiff y cwrs ei lywio gan Feincnodau ASA ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (ASA), a鈥檙 Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol Cymru) ac mae鈥檔 cydymffurfio 芒 gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru fel rheoleiddwyr gwaith cymdeithasol Cymru.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol Gwynedd, Ynys M么n a Chonwy, sy鈥檔 cynnal ac yn darparu lleoliadau i fyfyrwyr ar y rhaglen.
Nodweddion allweddol yr MA hwn mewn Gwaith Cymdeithasol yw:听
- Amserlen gryno o 2-3 diwrnod yr wythnos
- Lefel uchel o gefnogaeth tiwtor
- Lleoliadau ymarfer wedi'u trefnu ar gyfer myfyrwyr
- Dwyieithog*
- Cyflogaeth ar ddiwedd y cwrs gyda swyddi gwaith cymdeithasol yn dechrau o tua 拢35,000 y flwyddyn
*Mae ein partneriaid yn gofyn bod gan y myfyrwyr y maent yn eu derbyn sgiliau dwyieithog Cymraeg / Saesneg. Mae鈥檙 gofyniad hwn er mwyn diwallu anghenion eu cymunedau a chydymffurfio 芒鈥檙 hawl i wasanaeth Cymraeg o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur yr iaith Gymraeg (Cymru) 2011. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr yn gallu dilyn darlithoedd sydd yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg gyda sleidiau dwyieithog, ac yn gallu sgwrsio'n naturiol yn Gymraeg gydag unigolion dwyieithog. Fodd bynnag, nid ydym yn s么n am Gymraeg 鈥榖erffaith鈥 (os oes y fath beth!). Mae myfyrwyr yn gallu cyflwyno eu hasesiadau yn eu dewis iaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am le ar y rhaglen, ond yn ansicr os yw eich Cymraeg yn 'ddigon da', dewch i siarad 芒 ni. Gallwn helpu i asesu eich sgiliau a sicrhau nad ydych yn colli allan os yw eich sgiliau yn ddigon da, a/neu os gallwch elwa o gefnogaeth i adeiladu ar sgiliau presennol.
Cwestiynau Cyffredin
I gael rhagor o wybodaeth am yr MA hwn mewn Gwaith Cymdeithasol, darllenwch ein Dogfen Cwestiynau Cyffredin. 听
Yn anffodus ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y cwrs hwn.
Tystiolaeth Myfyrwyr
鈥淩wy鈥檔 teimlo鈥檔 ffodus fy mod wedi cael y cyfle i astudio Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi cael profiadau addysgu ac ymarfer gwerthfawr - gyda鈥檙 profiad ymarfer olaf yn arwain yn uniongyrchol at waith rwy鈥檔 ei fwynhau鈥檔 fawr. Trwy gefnogaeth y t卯m ym Mangor, rwyf wedi magu hyder i weithio yn fy maes." Cai O'Marah. Myfyriwr Graddedig MA Gwaith Cymdeithasol.
鈥淩oeddwn yn teimlo fy mod yn cael cefnogaeth dda iawn o鈥檙 broses ymgeisio i gwblhau鈥檙 cwrs. Mae cefnogaeth ac arweiniad y t卯m ym Mangor a hefyd y t卯m ar leoliadau wedi bod y tu hwnt i鈥檙 galw. Cwblhau鈥檙 cwrs yw鈥檙 peth mwyaf rwyf wedi ei gyflawni hyd yma.鈥 Cherise Lloyd, myfyriwr graddedig MA Gwaith Cymdeithasol.
鈥淢ae鈥檙 cyfleoedd a gefais ym Mangor wedi bod o fudd mawr i mi wrth ddechrau fy ngyrfa. Roedd eu cysylltiadau agos 芒'r Awdurdodau Lleol cyfagos a lleoliadau cysylltiedig yn gwneud y newid o fod yn fyfyriwr i Weithiwr Cymdeithasol newydd gymhwyso yn llawer haws." Kate Thomas, myfyriwr graddedig MA Gwaith Cymdeithasol
鈥淢ae bod yn barod i helpu a chefnogi eraill ac yn barod am her yn rhan fawr o waith cymdeithasol. Mae gweithio i ddatblygu a gwella bywydau pobl eraill yn brofiad amhrisiadwy." Llinos Foulkes, myfyriwr graddedig MA Gwaith Cymdeithasol
Fideo: MA Gwaith Cymdeithasol
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Byddwch yn cael eich addysgu trwy gyfrwng nifer o wahanol ddulliau addysgu a chyfleoedd dysgu. Bydd hyn yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gwaith gr诺p, chwarae rhan, projectau dysgu dan arweiniad myfyrwyr. Yn ystod eich 200 diwrnod o leoliadau ymarfer (a rennir yn ddau 100 diwrnod y flwyddyn), byddwch yn dysgu oddi wrth ymarferwyr medrus a phrofiadol o fewn amgylchedd dysgu strwythuredig a chefnogol.听
Gellir cynnal lleoliadau ymarfer mewn amrywiaeth o dimau gwaith cymdeithasol e.e. Plant a Theuluoedd, Anabledd, Oedolion H欧n, Iechyd Meddwl. Mae lleoliadau鈥檔 cael eu cynllunio a鈥檜 trefnu鈥檔 ofalus gan gydlynwyr lleoliadau yn ein hawdurdodau lleol partner. Mae lleoliadau yn helpu i baratoi'r myfyriwr ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol cyfannol a chyflogadwyedd o fewn y gweithlu gwaith cymdeithasol presennol.
Mae pob modiwl yn greiddiol i'r cwrs ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr lwyddo ym mhob aseiniad
Blwyddyn 1
- Gwybodaeth a Sylfaen Sgiliau ar gyfer Gwaith Cymdeithasol
- Polisi Cymdeithasol ar gyfer Ymarfer Gwaith Cymdeithasol
- Y Cwrs Bywyd
- Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer Ymarfer Gwaith Cymdeithasol
- Y Gyfraith ar gyfer Gwaith Cymdeithasol 1
- Y Broses Ymchwil
- Lleoliad Ymarfer 1 (100 diwrnod)
Blwyddyn 2
- Gwaith Cymdeithasol gydag Oedolion
- Gwaith Cymdeithasol gyda Phlant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
- Y Gyfraith ar gyfer Gwaith Cymdeithasol 2
- Adolygiad Llenyddiaeth听
- Lleoliad Ymarfer (100 diwrnod)
- Traethawd Hir Gwaith Cymdeithasol
Traethawd hir: Mae鈥檙 traethawd hir yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud ymchwil unigol sydd ar raddfa fechan, ond sy鈥檔 arwyddocaol, dan oruchwyliaeth oruchwyliwr ymchwil. Mae myfyrwyr yn nodi cwestiwn ymchwil a chasglu a dadansoddi data sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cwestiwn ymchwil, gan ddefnyddio fframwaith dadansoddol priodol. Maent yn ymdrin 芒鈥檙 cwestiwn ymchwil wedyn yng ngoleuni eu canfyddiadau. Cyflwynir yr ymchwil ar ffurf traethawd hir 20,000 o eiriau, gan ddefnyddio鈥檙 confensiynau arferol.
听
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwaith Cymdeithasol.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
- Dosbarthiad Gradd 2.2 neu uwch
- O leiaf 3 mis (CALl) o brofiad gofal cymdeithasol perthnasol neu brofiad cyfatebol*
- TGAU Gradd C neu gymhwyster cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf, 听
- Mae cynigion ar gyfer lleoedd ar y cwrs yn seiliedig ar gyfweliad boddhaol ag ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf derbyn.
- Angen sgiliau Cymraeg siarad a gwrando**
Mae hefyd yn ofyniad bod yr holl fyfyrwyr a dderbynnir ar y rhaglen yn llwyddo i gael cliriad uwch gan y DBS, a'u bod yn gallu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chynnal eu cofrestriad trwy gydol eu hastudiaethau.
*Gall profiad fod yn waith gwirfoddol neu gyflogedig, yn cynnig gofal personol i unigolion, a/neu gymorth a chefnogaeth i unigolion, teuluoedd a grwpiau. Mae enghreifftiau鈥檔 cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, waith cefnogi 1-1 yn yr ysgol, cynorthwyydd gofal cymdeithasol neu ofal iechyd, gweithgareddau chwaraeon a hamdden i blant/oedolion ag anableddau, cynllun i-can (cefnogaeth iechyd meddwl), eiriolaeth. 听Mae'n bwysig bod gennych ddealltwriaeth sylfaenol o swyddogaeth gwaith cymdeithasol a pham y gallai fod angen gwaith cymdeithasol ar bobl ar adegau penodol yn eu bywydau.
**Mae hyn yn golygu eich bod angen y gallu i ddilyn darlithoedd sydd yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg gyda sleidiau dwyieithog, ac yn gallu sgwrsio'n naturiol yn Gymraeg gydag unigolion dwyieithog. Gellir cyflwyno asesiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am le ar y rhaglen, ond yn ansicr os yw eich Cymraeg yn 'ddigon da', dewch i siarad 芒 ni. Gallwn helpu i asesu eich sgiliau a sicrhau nad ydych yn colli allan os yw eich sgiliau yn ddigon da, neu os gallech elwa o gefnogaeth i adeiladu ar sgiliau cyfredol.
Am wybodaeth am sut i gael profiad gwaith ym maes gofal cyn gwneud cais, cysylltwch 芒:听听
- Tonwen Davies,听Cyngor Gwynedd听
- Maria Jones, Cyngor Sir Ynys M么n
- Nia O鈥橫arah, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy听
Yn anffodus ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y cwrs hwn.
Gyrfaoedd
Ar 么l cymhwyso, byddwch yn gallu gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol, gan weithio鈥檔 aml gyda gweithwyr proffesiynol eraill mewn timau amlddisgyblaethol. Mae ein cysylltiadau 芒 chyflogwyr yn golygu bron bob blwyddyn bod ein holl raddedigion yn sicrhau contractau cyflogaeth cyn cwblhau eu hastudiaethau. Dros y 3 blynedd diwethaf, cafodd 100% o'n graddedigion eu cyflogi fel gweithwyr cymdeithasol.听
Tua 拢35,000 yw'r cyflogau cychwynnol arferol ar gyfer y swyddi hyn ar hyn o bryd.
Cysylltiadau 芒 chyflogwyr
Mae'r brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol Gwynedd, Ynys M么n a Chonwy i ddatblygu, darparu a rheoli'r rhaglen Gwaith Cymdeithasol hon. Mae'r awdurdodau lleol sy'n bartneriaid yn cymryd rhan yn y broses recriwtio, dewis myfyrwyr a chyfrannu at addysgu ac asesu myfyrwyr. Mae鈥檙 partneriaid hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu ymarfer, ynghyd ag asiantaethau cyflogi eraill, gan sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gref o ymarfer gwaith cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, ochr yn ochr 芒鈥檜 datblygiad academaidd. Mae hwn hefyd yn gyfle da i gyflogwyr nodi gweithlu'r dyfodol. Rydym hefyd yn gweithio gyda gofalwyr ac unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol wrth recriwtio, asesu a rheoli elfennau o'r rhaglen.