Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs cyfrwng SaesnegÌýyw hwn. Gweler y cwrs cyfrwng CymraegÌýyma.
Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa Ìýi uwch arweinwyr. Mae'r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd y rhaglen,Ìýsydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran-ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu ag Kaydee Owen.
MaeÌýhon yn raglen dysgu cyfunol sy'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb lleol a dysgu arlein ar gyfer pob modiwl. Bydd deunyddiau ac adnoddau ar gael ar blatfform dysgu proffesiynol HWB Llywodraeth Cymru a bydd myfyrwyr yn cael mynediad i'r deunyddiau a'r adnoddau trwy ddolen trwy Amgylchedd Ddysgu Rhithiol eu sefydliad cofrestru.
Bydd y rhaglenÌýyn rhoi i'r cyfranogwyr y profiadau dysgu allweddol er mwyn cefnogi eu hymchwil a'u hymholiad i ym arfer proffesiynol. Bydd yn ychwanegu at eu sgiliau arwain, annog awtonomi proffesiynol a chyrfhau barn broffesiynol ym mhob cyd-destun a sefyllfa. Bydd y pwyslais seiliedig ar arfer hwn yn arwain at ymarferwyr addysgol a fydd yn gweithredu'n foesegol, yn datblygu sgiliau critigol mewn ymchwil ac ymarfer, yn cydweithio ac yn ymateb mewn modd arloesol i heriau yn eu bywyd gwaith.Ìý
Mae tri llwybr rhaglen gwahanol ar gael:Ìý
Ìý
MA Addysg (Cymru) – mae hwn yn gwrs cyffredinol ac mae'n cynnwys astudio dau fodiwl dewisol sydd wedi'u cyfuno ag astudio dau fodiwl gorfodol - Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch a Thraethawd Hir.Ìý
Ìý
MA Addysg (Cymru) Arweinyddiaeth – mae'r cwrs astudio hwn yn cynnwys astudio dau fodiwl arbenigol mewn arweinyddiaeth ynghyd ag astudio dau fodiwl gorfodol, sef y modiwl Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch eraill a Thraethawd Hir sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth mewn addysg.Ìý
Ìý
MA Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu â Chymorth - mae'r cwrs astudio hwn yn cynnwys astudio dau fodiwl arbenigol mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol ynghyd ag astudio dau fodiwl gorfodol, sef y modiwl Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch Eraill a Thraethawd Hir sy'n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn addysg.Ìý
Ìý
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhai llefydd ar y rhaglen ar gyfer athrawon sydd yn byw yng Nghymru ac sy'n cael eu cyflogi o leiaf 0.4 (o amser llawn) o fewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Gofyniad arall ydy bod yr athrawon ym mlynyddoedd 3-6 eu gyrfa. Gweler y tab costau am fanylion pellach.
Gan fod hon yn raglen rhan amser dros 3 blynedd, nid yw'n cael ei chynnig i fyfyrwyr rhyngwladol ac er ei fod ar gael i ymgeiswyr o gefndiroedd sydd ddim yn ymwneud gydag addysgu yng Nghymru, ni fyddai'r ymgeiswyr hynny yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Efallai ei fod yn bosibl defnyddio cymwysterau Lefel 7 (e.e. TAR) fel dysgu blaenorol hyd at 60 credyd y rhaglen meistr hon er mwyn gallu cwblhau'r cwrs yn gyflymach.
Fideo -ÌýMA Addysg (Cymru) Cenedlaethol
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs yn parhau am 3 blynedd ac yn un rhan amser. Nid oes opsiwn amser llawn. Bydd y dysgu yn gyfuniad o wyneb yn wyneb ac arlein. Bydd y gweithgareddau yn gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol.
Bydd yr asesu yn aseiniadau gwaith cwrs ac fe'u cyflwynir ar ddiwedd pob modiwl. Pan fydd hynny'n bosibl, bydd yr aseiniadau wedi cael eu cynllunio i gyd-fynd â chyd-destun gwaith ac amserlenni athrawon amser llawn.
Bydd 'Egwyddorion Dysgu Proffesiynol yng Nghymru ar Lefel Meistr' yn llywio cynnwys addysgeg yr elfennau wyneb yn wyneb ac arlein y modiwlau. Y chwech egwyddor yw:
- Mae dysgu proffesiynol yn cael ardrawiad cadarnhaol ar yr holl ddysgwyr sydd yng nghanol yr NAPL.
- Mae dysgu proffesiynol yn galluogi pob ymarferwr i feithrin agwedd barhaus, critigol, cyd-destunol a chydweithiol i ymarfer proffesiynol.
- Mae'r dysgu proffesiynol yn cael ei arwain gan anghenion a diddordebau'r ymarferwyr unigol yn unol â Chenhadaeth ein Cenedl.Ìý
- Mae dysgu proffesiynol yn datblygu sgiliau ymchwil ac ymholi yn ogystal â gwybodaeth y cyfranogwyr trwy ddadansoddi critigol ac adfyfyrio ar ymarfer.
- Mae dysgu proffesiynol yn meithrin llythrennedd ymchwil ac arfer seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae dysgu proffesiynol yn dyfnhau gwybodaeth am gynnwys addysgegol ac yn arwain at wella ymarfer a barn broffesiynol.
Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys:Ìý
- Sgiliau Ymchwil ac Ymholi UwchÌý
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Rhagoriaeth Mewn Ymarfer
- Cynllunio A Gwireddu'r CwricwlwmÌý
- Arfer sy'n seiliedig ar Dystiolaeth
Diwrnodau Cyflenwi Cynadleddau Cenedlaethol (yn dechrau Medi 2023)
Tymor 1
- 22 Hydref 2022
- 19 Tachwedd 2022
Tymor 2
- 11 Chwefor 2023
- 11 Mawrth 2023
Tymhorau 2 a 3 (ADY a Llwybrau Arweinyddiaeth yn Unig)Ìý
- 24 Mehefin 2023
- 15 Gorffennaf 2023
Sesiynau Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch (yn dechrau Medi 2023)
Sesiwn Sgiliau Ymchwil acÌý Ymholi Uwch: 16:00 – 18:00 |
XME 4312 Pwnc Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch (yn dechrau Medi 2023) |
13.10.22 | Maes 1: Cynllunio astudiaeth ymchwil/ymholi |
10.11.22 | LC 1 a 2 |
26.01.23 | Maes 2: Archwilio trafodaethau mewn Ymchwil Addysgol |
16.03.23 | Maes 3: Dyluniad Ymchwil 1: Methodolegau; Paradeimau a Safbwyntiau |
18.05.23 | LC 3 a 4 |
16.06.23 | Maes 4: Dyluniad Ymchwil 2: Dulliau, Dadansoddiad a Chynrychiolaeth |
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Addysg Cenedlaethol (Cymru) (Cyfrwng Saesneg).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Ariannu
I'r rhai sy'n bodloni gofynion mynediad y rhaglen ond nad ydynt yn gymwys am le a noddir gan Lywodraeth Cymru, y ffioedd dysgu yw £3,250 ar hyn o bryd am bob blwyddyn o astudio. Gall fod yn bosibl defnyddio cymwysterau Lefel 7 (e.e. Tystysgrif Addysg i Raddedigion) fel dysgu blaenorol am hyd at 60 credyd o'r radd meistr hon, gan olygu fod modd cwblhau’r cwrs yn gyflymach.
Dylai ymgeiswyr sy'n ariannu eu hastudiaethau trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru fod yn ymwybodol na fyddant efallai’n gymwys i wneud cais i wrthbwyso credydau yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen.
Rhaglen ran-amser yn unig yw hon ac nid yw ar gael i ddysgwyr rhyngwladol. Sylwch fod myfyrwyr nad ydynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn gallu cael mynediad at y rhaglen Meistr ond ni fyddant yn gallu cael mynediad at y cyllid arbennig a nodir yma.
Mae'r Rhaglenni Meistr Cenedlaethol mewn Addysg ar gael i bob ymarferydd, fodd bynnag gall rhai myfyrwyr fod yn gymwys am gefnogaeth ariannol.
I fod yn gymwys am gyllid mae’n rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
- Bod yn ymarferydd ar ddechrau eich gyrfa h.y., yn unigolyn ym mlwyddyn 3-6 o ymarfer fel athro ar ddechrau’r rhaglen, neu yn
- Aelod o staff mewn ysgol sy’n bartner mewn Addysg Gychwynnol Athrawon;
- Cynorthwywyr Addysgu sy'n bodloni gofynion mynediad academaidd y rhaglen;Ìý
- Staff partneriaid gwella ysgolion/consortia rhanbarthol/staff Estyn/staff Awdurdod Lleol/Haen ganol;
- Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (gan gynnwys Addysg Bellach);
- Ymgeisydd sydd bron yn bodloni maen prawf o fod yn ymarfer ers 3-6 blynedd, ond bydd hynny yn ôl disgresiwn y brifysgol a dim ond os oes amgylchiadau eithriadol.
- Bodloni gofynion mynediad academaidd y Sefydliad Addysg Uwch. Nifer cyfyngedig o leoedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael
- Gweithio mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru (neu yn achos Llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol gallai hyn gynnwys sefydliad Addysg Bellach yng Nghymru).
- Wedi derbyn addysg i safon gradd neu gymhwyster cyfwerth.Ìý
- Wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (mae'n rhaid bod wedi cofrestru trwy gydol y rhaglen).
- Yn cael eich cyflogi ar gontract sydd o leiaf 0.4 Cyfwerth Amser Llawn. Gall hyn gynnwys athrawon llanw sydd ar gontractau tymor hir naill ai gydag Awdurdod Lleol, ysgol neu asiantaeth.
- Cael eich derbyn ar y cwrs MA penodol hwn mewn Addysg ac yna ymrestru arno.
Yn ogystal:
- Dylai fod gan ymgeiswyr, lle bo modd, gefnogaeth eu Prifathro neu Brifathrawes (neu gyfwerth, megis Pennaeth, Rheolwr-gyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredol neu Bennaeth Gwasanaeth).
- Pan fo rhywun eisoes wedi cyflawni gradd Meistr pwnc-benodol, efallai y byddant yn dal yn gymwys i wneud cais am y cyllid tuag at y rhaglen hon
- Nid yw unrhyw gymwysterau Meistr mewn Addysg eraill a gynigir gan y Sefydliadau Addysg Uwch hyn yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rhaid i bob darpar ymgeisydd am gefnogaeth gydnabod a chytuno i'r amodau ariannu canlynol:
- Wrth dderbyn y cynnig hwn o grant mae’n ofynnol i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, naill ai o fewn y system addysg a gynhelir neu’r sector addysg bellach am o leiaf 2 flynedd ar ôl cwblhau’r rhaglen.
- Ni all ymgeiswyr sy'n derbyn y cyllid hwn wneud cais am gefnogaeth cyllid ôl-raddedig pellach trwy'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ac eithrio cefnogaeth Lwfans i Fyfyrwyr Anabl lle bo'n berthnasol.
Y broses ar gyfer cael cyllid
Cytunir ar y grant rhwng Llywodraeth Cymru a'r Prifysgolion sy'n rhan o'r cynllun. Ni fydd unigolion yn gwneud cais am gefnogaeth i Lywodraeth Cymru na'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Cwestiynau Cyffredin am Gyllid.
Gweler y ddogfenÌýCymhwysedd Ariannu, Proses Dyrannu a Thelerau ac Amodau.Ìý
Gofynion Mynediad
Mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar Statws Athro Cymwysedig a chael eu cyflogi ar hyn o bryd yn y sector addysg gorfodol yn y DG. Gall ymgeiswyr sydd eisoes â chymwysterau lefel 7 cyfredol Ìý(e.e. TAR) gael caniatad i ddefnyddio hyd at 60 credyd o'u dysgu blaenorol tuag at radd Meistr a chwblhau'r radd Meistr dros gyfnod byrrach. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, yna os gwelwch yn dda cysylltwch gyda Kaydee Owen
Os ydych yn dymuno gwneud cais ond nad oes gennych TAR gyda 60 o gredydau lefel meistr neu gredydau lefel Meistr eraill y gellir eu trosglwyddo i'r cwrs hwn, efallai y gallwch wneud cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol gan ddefnyddio'r ffurflen RPL.
Ffurflen Gais Atodol: Sicrhewch eich bod yn llenwi pob rhan berthnasol o'r Ffurflen Gais Atodol a bod eich ffurflen wedi'i chwblhau yn cael ei chyflwyno gyda'ch cais (bydd y Brifysgol o'ch dewis yn darparu arweiniad ar sut i wneud hyn). ÌýNi allwn ystyried ceisiadau heb y Ffurflen Gais Atodol.Ìý
Cwestiynau Cyffredin am Dderbyniadau.
Gweler ein Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol.