Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs microgymhwyster hwn yn addas ar gyfer addysgwyr mewn swyddi arweinyddiaeth Ysgol, yn ogystal ag unigolion sy鈥檔 arwain ar faterion eco yn eu hysgolion.
Pryd byddaf yn cychwyn?
Byddwn yn cynnig dau ddyddiad cychwyn gwahanol ar gyfer y cwrs microgymhwyster hwn - mis Medi a mis Ionawr.
Beth yw hyd y cwrs?
50 awr (7.5 awr o ddysgu; 42.5 o astudiaeth annibynnol dan arweiniad).
Pam astudio'r cwrs yma?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddylanwadu ar eu cyd-aelodau o staff yn ogystal ag addysgu'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i fyw mewn ffordd cynaliadwy. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno asesiad y gellir hefyd ei ddefnyddio fel rhan o'ch taith newid.
Tiwtor
Jeremy Griffths
Mae gan Jeremy 38 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig. Mae wedi bod yn brifathro mewn tair ysgol oedran cynradd ac ar hyn o bryd mae鈥檔 uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
听Mae鈥檙 syniad o arweinyddiaeth gynaliadwy mewn addysg wedi cael ei drafod ers sawl degawd (Hargreaves & Fink, 2005). Fodd bynnag, ni fu erioed cymaint o frys i sicrhau newid amgylcheddol er lles a goroesiad cenedlaethau鈥檙 dyfodol o ddynoliaeth. Mae hyn yn cynnwys arweinwyr ar bob lefel ac o bob agwedd o fywyd.听
Gellir dadlau y bydd ysgolion a'u myfyrwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod o hyd i atebion i drychineb amgylcheddol byd-eang posibl. Felly, rhaid i arweinwyr鈥μ
- gael eu galluogi i ddatblygu arfer gorau a modelu cynaladwyedd i'w myfyrwyr a'u rhanddeiliaid
- ddatblygu addysgu a dysgu ar gyfer cynaladwyedd fel rhan o bob agwedd o'r cwricwlwm ac nid fel atodiad yn unig; a
- gwrando ar lais pobl ifanc a chymunedau lleol sydd 芒鈥檙 awydd a'r gallu i ddiogelu'r dyfodol.
Yn y modiwl hwn, cewch gyfle i ddysgu am arweinyddiaeth gynaliadwy a鈥檌 phwysigrwydd, yn ogystal 芒 sut i ddylanwadu eraill i fabwysiadu arferion cynaliadwy. Byddwch yn ystyried effaith penderfyniadau arweinyddiaeth ar yr amgylchedd, y gymdeithas, a chanlyniadau dymunol y sefydliad. Byddwch yn dysgu sut i reoli newid yn effeithiol, ac yn defnyddio'r sgiliau hyn i ddylanwadu eich cydweithwyr i fabwysiadu arferion cynaliadwy yn y gweithle.
Deilliannau dysgu
-
听Asesu ac archwilio arferion arweinyddiaeth gynaliadwy sy'n gyfiawn ac yn foesegol yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
-
听Gwerthuso damcaniaethau rheoli newid yn feirniadol i ganfod y ffordd orau o roi arferion cynaliadwyedd ar waith.
Sut bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno?
- Bydd y cwrs microgymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddeunyddiau a recordiadau ar-lein, a gynhelir ar Blackboard, sef amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Bangor.
- Caiff myfyrwyr gyfleoedd i gydweithio 芒'i gilydd trwy fforymau ar-lein Blackboard a grwpiau trafod.
- Bob wythnos bydd deunydd newydd ar gael i fyfyrwyr ar ffurf fideos, deunydd darllen, tasgau hunan-astudio a gweithgareddau ymarferol.
- Rhoddir arweiniad i gefnogi myfyrwyr i gwblhau eu hasesiad yn llwyddiannus tuag at ddiwedd y cwrs.
Cost y Cwrs
- Y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 fydd 拢250.00 (yn cynnwys TAW).
- Ewch i dudalen听Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig听er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Dylai鈥檙 darpar ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (2(ii) neu uwch).
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau isod cyn gwneud cais. Mae鈥檙 cyfarwyddiadau鈥檔 nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano, a bydd dilyn y cyfarwyddiadau鈥檔 arbed amser i chi.
听
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth bresennol;
- Blynyddoedd o brofiad a hanes cyflogaeth (fel sy'n berthnasol)
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o gwblhau'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISIO.
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau annibynnol', yna dewiswch 鈥樏攍-raddedig a addysgir nad yw鈥檔 graddio鈥.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch 鈥楴on-Graduating Taught Modules in Education(NGGT/EDU). Cliciwch 鈥楥adw a Pharhau鈥.
- Yn y dudalen nesaf, newidiwch ateb y cwestiwn cyntaf i 鈥楻han amser'.
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl. Ar gyfer Microgymhwyster: Arweinyddiaeth Gynaliadwy mewn Addysg 1: Gwneud y Newid, y cod ar gyfer mis Medi yw听XME-4105 a'r cod ar gyfer mis Ionawr yw听XME-4491. Rhaid cwblhau'r adran hon i sicrhau fod eich cais yn cael ei brosesu.
- Rhaid i chi nodi dyddiad dechrau鈥檙 cwrs hefyd. Mae'r cwrs hwn yn rhedeg ddwywaith y flwyddyn (Medi ac Ionawr). Dewiswch un o'r opsiynau hyn, yna cliciwch 鈥楥adw a Pharhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, dylech uwchlwytho鈥檙 ddogfen a baratowyd gennych ar ddechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yma. Cliciwch 鈥楥adw a Pharhau'.
Mae angen i chi gynnwys gwybodaeth am y cymhwyster uchaf sydd gennych chi, e.e. os oes gennych chi gymhwyster 么l-raddedig, dim ond y wybodaeth yma sydd ei angen.
Bydd y system yn gofyn am dystiolaeth o'r cymhwyster. Os ydy'r dystiolaeth wrth law, mae modd i chi ei uwchlwytho yma. Peidiwch 芒 phoeni os nad ydyw gennych chi, gallwch uwchlwytho'r ddogfen Word yma eto (i fodloni'r system).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn听hunan-ariannu,听rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol.