Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr听丑测产濒测驳听ar lefel 么l-raddedig听sy'n cael听ei gyflwyno听ar-lein.
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs Byr hwn yn addas?
Mae'r modiwl dysgu o bell ar-lein hwn ynghylch Cyflymu Arbenigedd yn addas ar gyfer unrhyw un sydd 芒 diddordeb deall sut i ddatblygu arbenigedd a rhagori.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Mae'r cwrs micro-gymhwysedd hwn yn defnyddio dull dysgu seiliedig ar broblemau i egluro'r atebion cymhleth fel rheol i'r cwestiwn, "Sut mae datblygu arbenigedd?"听
Prif nod y cwrs hwn yw darparu dealltwriaeth ddamcaniaethol ac empirig gadarn o'r llenyddiaeth sy鈥檔 bodoli ar arbenigedd. Trwy ganolbwyntio ar gymhwyso effeithiol, ein nod yw datblygu鈥檙 arferion gorau mewn cyfarwyddo, hyfforddiant ac adborth er mwyn rhagori mewn gwahanol feysydd.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs byr hwn yn cymryd 12 wythnos i'w gwblhau. Bydd holl ddeunyddiau鈥檙 darlithoedd ar gael ichi ar ddechrau'r cwrs a fydd yn eich galluogi i weithio wrth eich pwysau yn 么l eich amgylchiadau personol.
Asesiad
Mae'r asesu hyblyg yn galluogi'r dysgwr i ganolbwyntio ar ei ddiddordebau ei hun trwy ysgrifennu traethawd hyfforddi gyda鈥檙 nod o wella sgiliau canfyddiadol/echddygol mewn camp neu faes penodol (e.e. busnes, addysg, cerddoriaeth ac ati). (Nifer y geiriau: 2,500).听
Y Gofynion Technegol
Cwrs ar-lein yw hwn a gyflwynir trwy Blackboard Ultra. Bydd angencysylltiad sefydlog 芒鈥檙 rhyngrwyd, adnoddau Technoleg Gwybodaeth a chyfrifiadur a meddalwedd cyfoes, meicroffon a chlustffonau neu seinyddion ar y myfyrwyr.
Tiwtor
Dr Gavin Lawrence
Mae Gavin yn uwch ddarlithydd ac ymchwilydd mewn seicoleg perfformiad. Mae鈥檔 aelod o鈥檙 Sefydliad Seicoleg Perfformiad El卯t, yn Gadeirydd Pwyllgor Talent a Pherfformiad Can诺 Cymru, ac yn Is-gadeirydd Bwrdd Economi Sgiliau Lleol Gogledd Cymru y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA).听
Mae gan Dr Lawrence dau brif faes diddordeb: Dysgu a Rheoli Echddygol, gyda phwyslais penodol ar weithio tuag at nod, ac arferion hyfforddi effeithiol, rhagoriaeth, a datblygu dawn. Ei brif bwyslais yn y maes olaf yw deall yn well sut mae datblygu dawn ac arbenigedd, gan gloriannu鈥檙 ffyrdd mwyaf effeithiol o ragori drwy arferion ymddygiadol a seicolegol.听
Mae ei ymchwil yn archwilio sut mae strwythur a phrosesau ymarfer yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth o hyfforddi effeithiol a datblygu talent. Er enghraifft, beth sy'n gwahaniaethu'r rhai sy'n cyrraedd arbenigedd a statws uwch-el卯t oddi wrth y rhai nad ydynt? Mae ei waith yn archwilio strwythurau ymarfer er mwyn dysgu ynghynt a pha ymarfer sydd angen i chi ei wneud, pryd, a faint sydd ei angen arnoch chi i gynyddu鈥檆h siawns o gyrraedd statws arbenigol a llwyddo.
Mae Dr Lawrence wedi sicrhau cyllid allanol ar gyfer ei ymchwil gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff gan broject Pathway2Podium Rhyngddisgyblaethol UK Sport, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, a Chodi Pwysau Cymru, ymhlith eraill. Mae'r projectau hyn yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol o ddeall datblygiad talent ac arbenigedd.听
Mae ganddo deulu ifanc, gyda dau efallai o ddoniau鈥檙 dyfodol, y mae'n eu caru鈥檔 fawr. Does ganddo fawr o amynedd efo ffyliaid ond mae鈥檔 agored i bob syniad a dysgeidiaeth newydd, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud 芒 gwella perfformiad pobl. Mae Dr Lawrence hefyd yn athletwr 'methedig' ac yn ddrymiwr angerddol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Cyflwynir y cwrs byr hwn gan wyddonydd Datblygu Talent sy鈥檔 cydweithio 芒 sefydliadau chwaraeon blaenllaw fel UK Sport a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i gorff o lenyddiaeth a anwybyddir yn aml ym maes perfformio. Yn benodol, mae'n archwilio sut y gellir cymhwyso damcaniaethau dysgu echddygol a rheoli i leoliadau sy鈥檔 ymgyrraedd at ragoriaeth i ddatblygu strategaethau dysgu effeithiol ac effeithlonrwydd symud. Yn ogystal, bydd y cwrs yn ymdrin 芒 llenyddiaeth caffael sgiliau, gan gynnig cipolwg ar sut i wneud y gorau o fannau ymarfer a pherfformio fel bodd modd dysgu a rhagori ynghynt.
Rhestr o unedau听
Unedau Dysgu
- Defnyddio Prosesu Gwybodaeth i wella strategaethau symud.听
- Sut mae pobl yn dysgu?
- Strwythuro ymarfer yn effeithiol, gan gynnwys ystyried cyd-destun, pwysau, gwneud penderfyniadau a her.听
- Darparu cyfarwyddyd ac adborth effeithiol听
Ar 么l pob uned, mae seminar byw rhithwir lle gallwch drafod meddyliau, holi cwestiynau, a rhannu profiadau i wella鈥檆h dealltwriaeth. 听
听
Cost y Cwrs
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein听
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch听'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch听Non-Graduating Taught Modules in Sport Health and Excercise Science (NGGT/SHES)听 Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:听Cyflymu Arbenigedd: y cod yw听(JXH-4105). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
听
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol